Skip to main content

System raddio beicio mynydd

System raddio beicio mynydd

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio system raddio beicio mynydd sydd â chod lliwiau i’ch helpu i ddewis lleoliad sy’n cyd-fynd â’ch gallu.

Llwybr Du - Lefel 5

Pellter: dros 50km

Cynnwys tiroedd eithafol
Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn credu bod beicio ar rai o adrannau’r llwybr hwn yn amhosibl

Llwybr Coch - Lefel 4

Pellter: 30 - 40km
Tir serth
Cerrig mawr neu rwystrau, sy’n gofyn am lefel uchel o arbenigedd beicio
Gofyn am fwy o amrywiaeth o symudiadau corfforol i feicio ar y tir hwn
Rhychau cul dwfn
Tir llithrig iawn
Tir sy’n gofyn am reolaeth dda iawn ar y breciau
Angen i’r beic ei hun fod mewn cyflwr da iawn

Rhaid bod gan y beic yr holl offer priodol gyda theiars da, hongiad a gardiau mwd

Llwybr Glas - Lefel 3

Pellter:  8 - 25km
Llethrau cymharol serth sy’n gofyn am dipyn o ymdrech ar y dringfeydd
Angen mwy o arbenigedd technegol ar y disgyniadau
Gallai’r tir orfodi beicwyr i bigo llinell
Rhwystrau ar y tir

Llwybr Gwyrdd - Lefel 2

Pellter:8 - 20km
Dringfeydd cymedrol
Disgyniadau cymedrol
Arwyneb tir mwy garw neu ychydig yn llithrig
Efallai na fydd angen pigo llinell
Dylai unrhyw linell ar y llwybr fod yn addas ar gyfer beicio ond gallai gynnwys cerrig bach, rhychau llydan bas neu dir ychydig yn llithrig

Llwybr Melyn - Lefel 1

Pellter  8km neu lai
Tir gweddol fflat
Arwyneb gwastad dros led cyfan y llwybr
Llwybr o leiaf 2m o led
Dim dringfeydd mawr
Dim disgyniadau mawr

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf