Skip to main content

Cadw yn Ddiogel

I wneud y gorau o’ch amser ar ddwy olwyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rydym yn argymell eich bod yn dilyn ein cyngor ar ddiogelwch ac arfer da.

Cymerwch ofal

  • Gwisgwch helmed bob amser
  • Beiciwch yn unol â’ch gallu a’ch sgiliau a sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i’ch taith
  • Cyn cychwyn ar eich taith, sicrhewch fod eich beic yn ddiogel drwy gael golwg ar y teiars, y breciau a’r gêrs
  • Dywedwch wrth rywun eich bod chi’n mynd a faint o’r gloch rydych chi’n bwriadu dod yn ôl
  • Ewch â’r canlynol gyda chi – map OS, cwmpawd, cit cymorth cyntaf sylfaenol, bwyd ac arian

Offer

  • Cariwch becyn offer sylfaenol bob amser: aml-declyn penodol ar gyfer beicio fyddai orau, ond os nad oes gennych un bydd arnoch angen allweddi Allen 4mm, 5mm a 6mm, pen fflat bach a thyrnsgriwiau Phillips
  • Hefyd gwnewch yn siŵr eich bod yn cario pwmp, lifers teiars, cit trwsio twll yn y teiar a rhai tiwbiau mewnol sbâr – mae gosod tiwb newydd yn haws na thrwsio twll yn y teiar

Dillad

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer pob math o dywydd drwy wisgo nifer o haenau o ddillad y mae modd eu haddasu
  • Ewch â siaced gwrth-ddŵr ysgafn, hyd yn oed mewn tywydd braf
  • Gellir gwisgo siorts seiclo ychwanegol o dan legins mewn tywydd oer

Yr hawl i feicio

Yn y DU, yr unig leoedd lle gallwch feicio’n gyfreithiol oddi ar y ffordd yw ffyrdd didramwy, llwybrau ceffylau, llwybrau’r Rhwydwaith beicio Cenedlaethol ( www.sustrans.org.uk) a llwybrau penodedig ar dir preifat fel coedwigoedd, canolfannau beicio mynydd a glannau cronfeydd dŵr.

Rhaid i feicwyr a beicwyr mynydd ildio i geffylau, beicwyr a cherddwyr ar lwybrau ceffylau, llwybrau tynnu a llwybrau cerdded eraill.

Cod ymddygiad

Mae nifer o wahanol bobl yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu’n dod yma i fwynhau pob math o ddiddordebau hamdden. Byddwch yn ystyriol ac yn gwrtais tuag at bob person rydych chi’n cwrdd ag ef ar y llwybr. Mae’n hynod o bwysig i arafu ac ildio i gerddwyr. Mae’r un peth yn wir am bobl sydd ar gefn ceffylau; mae methu â gwneud hynny yn gallu arwain at geffylau’n dychryn, yn dianc a’r person ar gefn y ceffyl yn cael anaf difrifol. Hefyd, cadwch mewn cof mai Parc Cenedlaethol yw Bannau Brycheiniog a bod gan bob un ohonom ddyletswydd i warchod harddwch naturiol y lle hyfryd hwn.

  • Ildiwch i gerddwyr a’r rhai sydd ar gefn ceffylau
  • Ar ffyrdd cyhoeddus, parchwch reolau’r ffordd
  • Peidiwch ag ymyrryd â bywyd gwyllt, planhigion na choed
  • Cadwch at lwybrau sydd wedi’u cyhoeddi
  • Gadewch bob gât fel y daethpwyd o hyd iddi
  • Ewch â sbwriel gyda chi
  • Peidiwch â chynnau tân
  • Peidiwch â mynd yn agos at weithrediadau Coedwigaeth
  • Byddwch yn barod am yr annisgwyl
  • Ceisiwch osgoi gwneud sgid olwynion ôl sy’n gallu achosi erydu
  • Arafwch wrth agosáu at ffermydd ac wrth deithio drwyddynt

Beth i’w wneud

1. Sesiynau blasu (i ddechreuwyr)

Os yw beicio mynydd yn newydd i chi, yna mae hurio hyfforddwr cymwys yn caniatáu i chi roi cynnig ar bethau yn y ffordd fwyaf diogel, didrafferth bosibl. Gallwch osgoi’r straen o ddarllen map drwy ganiatáu i arbenigwr â gwybodaeth leol ddangos y ffordd i chi. Mae darparwr gweithgareddau hefyd yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor ynghylch sut i reidio beic mynydd yn gywir dros wahanol fathau o dir, gan weithio’r gêrs i gyd-fynd â’r bryniau a defnyddio’r breciau i reoli eich disgyniadau.

2. Sesiynau gwella (i rai sy’n dychwelyd a rhai sydd am feithrin sgiliau)

Efallai eich bod chi’n dal i ddysgu, neu eich bod yn feiciwr profiadol sy’n ymweld â’r parc am y tro cyntaf. Pam nad ewch chi â’ch beicio i’r lefel nesaf a hurio arweinydd beicio mynydd i’ch arwain ar rai o lwybrau beicio mynydd mwyaf cyffrous y DU. Mae arweinwyr yn gallu cynnig hyfforddiant arbenigol, hyfforddiant ffitrwydd, cyngor cynnal a chadw a gwybodaeth am lwybrau lleol.

3. Profiadau annibynnol (i rai brwdfrydig ac arbenigwyr)

Os hoffech gael beic am y diwrnod i grwydro, gallwch hurio un gan y darparwyr hurio beiciau mynydd yn y parc. Maent hefyd yn gallu eich helpu i ddewis man cychwyn addas i’ch siwrnai. Os ydych chi wedi dod â’ch beic a’ch offer eich hun, dewiswch o blith ein llwybrau beicio mynydd wedi’u graddio. Cofiwch - mae’r bryniau’n fawr yn y parc ac mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lle gwyllt yn ystod tywydd garw. Os nad ydych chi’n siŵr neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi yna ewch i’ch siop feiciau lleol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwch yn barod, yn gyfrifol a chadwch yn ddiogel

Bydd ychydig o gynllunio a synnwyr cyffredin yn helpu i sicrhau bod eich profiad beicio mynydd yn ddidrafferth. I gael cyngor pwysig ar arfer dda a diogelwch, ewch i’n tudalen Cadw’n ddiogel.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf