Skip to main content

SYLLU AR Y SÊR

 

"Mae’r warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf yng Nghymru wedi’i lleoli ym Mannau Brycheiniog. Byddech yn ei chael yn anodd dod o hyd i gymuned sy’n gwneud cymaint i sicrhau bod llygredd golau’n cael ei leihau. Mae’r gwaith caled yn amlwg yn talu ffordd – ar noson glir rydych chi fwy neu lai’n gallu gweld popeth o unrhyw le” Arolwg Ordnans 2015

Ar noson glir ym Mannau Brycheiniog, gallwch weld y Llwybr Llaethog, prif gytser, nifylau llachar a hyd yn oed cawodydd meteor. Mae’n ddigon i wneud i lygaid unrhyw un ddisgleirio.

Mae gan ein Parc rai o’r wybrennau tywyll gorau o ran ansawdd yn y DU gyfan, sy’n ei wneud yn lleoliad perffaith i bobl sy’n hoffi syllu ar y sêr. Mae llawer o Ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i chi fwynhau syllu ar y sêr.

Rydym ni’n credu bod hwn yn rhywbeth i weiddi yn ei gylch, felly aethom ati i gydweithio â Chymdeithas Parc Bannau Brycheiniog er mwyn gwneud cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol i wneud ein Parc Cenedlaethol cyfan yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Yn 2012, ni oedd y pumed lleoliad yn y byd (a’r cyntaf yng Nghymru) i gael ei achredu.

Drwy’r statws llawn bri hwn, rydym yn gobeithio gwarchod ein awyr nos hudol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a helpu i leihau allyriadau carbon deuocsid yn ein Parc. Rydym hefyd yn bwriadu gwarchod llawer o greaduriaid y nos sy’n chwilota, hela a mudo pan mae’n dywyll.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn awyr y nos a sut mae modd i chi ddysgu mwy.

 

 


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf