Skip to main content

Cerdded er lles

Mae ystadegau’n dangos y gall cerdded yn rheolaidd wella eich iechyd a’ch lles yn sylweddol. Pam ddim bwrw ati?

Cerdded yw’r ymarfer corff delfrydol i bawb, does dim angen llawer o offer, gwariant na sgiliau arbennig. Mae’n addas i bobl o bob oedran a phob cefndir.

Dyma rai ffeithiau am gerdded iach:

  • Gall cerdded yn rheolaidd leihau risg clefyd coronaidd y galon, sy’n lladd bron i 8000 o bobl yng Nghymru’n bob blwyddyn
  • Mae cerdded rheolaidd yn lleihau risg problemau gyda’r galon megis clefyd coronaidd y galon, strôc, clefyd siwgr, pwysedd gwaed uchel, canser y coluddyn, afiechyd Alzheimer, osteopororsis, arthritis, gorbryder a straen.
  • Mae cerdded rheolaidd yn gwella hunanhyder, dyfalbarhad, egni, rheoli pwysau a disgwyliad oes.
  • Mae pobl yn fwy tebygol o gychwyn a pharhau i gerdded os ydynt yn cael hwyl, yn teimlo’n ddiogel, yn mwynhau’r amgylchedd ac yn teimlo rhywfaint o falchder am y gamp.

Os hoffech ychwanegu mwy o gerdded i’ch arferion ffitrwydd, pam na ymunwch â thaith gerdded wedi’i threfnu dan arweiniad un o dywyswyr cerdded proffesiynol, cymwysedig a gwybodus Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae ‘na ddigonedd o ddewis, yn cynnwys llwybrau cerdded hamddenol a heiciau heriol.

Am newyddion ynghylch teithiau wedi’u trefnu a gwyliau cerdded sydd ar y gweill ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i’r adran Digwyddiadau. Ac am fanylion ynghylch cerdded, cerdded bryniau neu lwybrau heicio ar gyfer pob gallu, ewch i’r adran Cerdded.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf