Skip to main content

Siopa

Mae cymuned ffyniannus a chreadigol yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r cyffiniau, a dyma ardal ragorol i ddod i siopa am anrhegion a wnaed â llaw neu gelf a ysbrydolwyd gan y wlad o gwmpas.

Mae gan bob un o’n trefi rywbeth gwahanol i’w gynnig. Ceir cymysgedd dda o siopau awyr agored a siopau moethus yn Aberhonddu a Chrucywel tra bo’r Fenni’n ardderchog o ran bwyd.

Mae tref anarferol, gelfyddydol y Gelli Gandryll yn fyd-enwog am ei siopau llyfrau, ond mae yma lawer mwy yn ogystal. Hen bethau yw un o gryfderau Llandeilo, tref sy’n llawn cymeriad, ac adeiladau ysblennydd o’r cyfnod Sioraidd ac Oes Fictoria.

Yn ein pentrefi a’n hardaloedd gwledig, fe gewch siopau bach a siopau fferm sy’n llawn i’r ymylon o gynnyrch tymhorol a nwyddau nodweddiadol Gymreig, tra bo’n canolfannau ymwelwyr Parc Cenedlaethol a’n swyddfeydd canolfannau croeso’n fannau da i gael gafael ar fapiau a chanllawiau lleol.


Uchafbwyntiau


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf