Skip to main content

Geogelcio a chyfeiriannu

Geogelcio a chyfeiriannu

Os ydych yn hoff o anturio, byddwch wrth eich bodd yn geogelcio, yr helfa drysor fyd-eang ar gyfer y teulu cyfan. Neu am ychydig yn fwy o sialens, gallech ymuno ag antur gyfeiriannu neu wella’ch sgiliau llywio a diffeithwch ar gwrs byw yn y gwyllt a goroesi, gweler manylion am sgiliau cyfeiriannu, llywio a diffeithwch ar waelod y dudalen hon.

Rhowch dro ar Geogelcio

Mae Geogelcio’n ffordd hwyliog o grwydro Bannau Brycheiniog. Bydd yn mynd â chi i lefydd anhygoel gyda golygfa wych neu ryw arwyddocâd hanesyddol efallai, er enghraifft, safle damwain awyren fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd neu gofeb Tommy Jones Bach..

Mae dros 180 o geogelciau mewn lleoliadau diddorol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, pob un ohonynt yn aros am i chi eu darganfod. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw System Leoli Fyd-eang (GPS) llaw a mynediad i wefan geogelcio, www.geocaching.com.Gallwch hyd yn oed roi cynnig arni heb GPS, drwy ddefnyddio map Arolwg Ordnans a chwmpawd.

Beth yw geogelc?

Mae geogelc yn fath o flwch trysor, yn amrywio o ran maint o gynhwysydd ffilm bychan i gynhwysydd plastig mwy neu hen focs ffrwydron. Mae’r person sydd wedi’i osod wedi cofnodi’i leoliad yn union, fel cyfeiriad grid a chyfesurynnau GPS, a chofnodi’r wybodaeth hon ar-lein yn www.geocaching.comneu un o'r gwefannau geogelcio eraill.

Mae pob geogelc yn cynnwys llyfr log, pensil a thrysor. Peidiwch â disgwyl trugareddau aur ac arian! Efallai y dewch o hyd i ‘geocoin’ y gellir dilyn ei hynt neu ‘travelbug’, ond mae'r rhan fwyaf o geogelciau’n cynnwys ‘geoswag’, bob math o wrthrychau sydd o fawr o werth y mae chwaraewyr blaenorol wedi’u gosod yno er mwyn i eraill ddod o hyd iddynt. Mae'n bwysig bod y rhain yn deulu-gyfeillgar ac na fyddant yn pydru (felly, dim losin!)

Eich nod yw rhoi rhywbeth yn y celc yn y gobaith y bydd rhywun yn mynd ag ef i rywle arall yn ddiweddarach ac yn cofnodi’i daith. Gallwch hefyd gymryd manion o'r celc cyn belled â’ch bod yn ychwanegu rhywbeth o werth cyfartal neu fwy (nid yw ‘geocoin’ yn cyfrif).

Sut mae dechrau arni?

Chwilio'r wefan geogelcio, www.geocaching.com, am geogelc mewn ardal yr hoffech ei harchwilio.

Os ydych yn defnyddio map yr Arolwg Ordnans, ysgrifennwch y cyfeirnodau grid i lawr.

Os ydych yn defnyddio dyfais GPS llaw, cofnodwch gyfesurynnau pob lleoliad fel a ganlyn (mae’r cyfarwyddiadau hyn yn berthnasol i ddyfeisiau Garmin):

  1. Pŵer ymlaen
  2. Gwasgwch y botwm tudalen bedair gwaith i gyrraedd y Ddewislen
  3. wasgwch ‘enter’ i ddewis ‘Mark’ sy'n mynd â chi i'r sgrin ‘Mark Waypoint’
  4. Gwasgwch fotwm ‘i fyny’ ddwywaith i sgrolio fyny at symbol y nodyn cerddorol ar y sgrin a gwasgwch ‘enter’
  5. Gwasgwch y botwm ‘i lawr’ ac ‘enter’ i ddewis y symbol llun yr ydych am ei ddefnyddio i adnabod y celc
  6. Sgroliwch lawr i'r rhif isod a gwasgwch ‘enter’ ddwywaith i roi enw neu rif o'ch dewis i’r celc
  7. Gwasgwch ‘enter’ i ddychwelyd i'r sgrin ‘Mark Waypoint’
  8. Sgroliwch lawr i waelod y sgrin a gwasgwch ‘enter’ i fynd i'r sgrîn ‘Edit Location’ lle allwch olygu’r cyfeirnod grid
  9. Pan fyddwch wedi gorffen, gwasgwch ‘enter’ eto i ddychwelyd i'r sgrin ‘Mark Waypoint’
  10. Sgroliwch fyny at ‘OK?’ a gwasgwch ‘enter’ i ddychwelyd i'r Ddewislen
  11. Sgroliwch lawr i ‘Waypoints’ a gwasgwch ‘enter’
  12. Sgroliwch lawr i ddod o hyd i’ch celc yn ôl ei enw
  13. Gwasgwch ‘enter’ sy'n mynd â chi i'r sgrîn ‘Review Waypoint’
  14. Dewiswch GOTO a gwasgwch ‘enter’ ac rydych yn barod i fynd i chwilio am y celc!

Bydd y ddyfais GPS, sy'n defnyddio lloerennau i gyfrifo’ch lleoliad i o fewn 15m, yn eich tywys yno. Dyna pryd mae’r helfa go iawn yn dechrau. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch llygaid a’ch blaengarwch i ddod o hyd i'r celc cudd!

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r geogelc, rhowch eich ‘geocoin’, tocyn neu wrthrych yn y celc a llofnodwch y llyfr log. Y tro nesaf y byddwch ar-lein, cofnodwch eich ymweliad ar y wefan geogelcio.

Moesau Geogelcio

Ychydig iawn o reolau sydd mewn gwirionedd ac maent yn syml iawn.

  • Gwnewch yn siŵr nad oes neb arall yn eich gweld pan fyddwch yn dod o hyd i'r celc.
  • Os byddwch yn cymryd gwrthrych o'r celc gadewch eitem cyfwerth neu fwy (rhaid i eitemau fod yn ddiogel ac yn addas i blant)
  • Llofnodwch y llyfr log
  • Mwynhewch a chofnodwch eich darganfyddiad ar wefan geogelcio pan fyddwch yn dychwelyd adref!

Celciau a chyfesurynnau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dewiswch gelc o'r rhestr isod ac fe welwch y cyfeirnod grid, y llwybr bws agosaf a rhif cod. Ewch i www.geocaching.com, nodi rhif cod unigryw'r celc ac fe ddarganfyddwch ragor o wybodaeth am y celc, gweld lluniau a darganfod cliwiau eraill i'ch helpu i ddod o hyd iddo.

Cofiwch y gall rhai o'r llwybrau at y celciau fod yn eithaf anodd ac, fel bob amser, mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd a'r tir.

Am wybodaeth benodol am lwybrau ac amseroedd y bysiau, cysylltwch â Traveline Cymru.

Allt yr Esgair GCM9E4

SO 12569 24391
N51°54.668 W003°16.349

Nearest bus stop: All Saints, Bwlch

Brecon View GCIJZNP

SO 06855 22702
N51°53.702 W003°21.304

Nearest bus stop: Royal Oak, Pencelli

Views all round GCIBHGP

SO 05606 28346
N51°56.822 W003°22.493

Nearest bus stop: Brecon Interchange

Pen y fantastic GC5250

SO 01211 21591
N51°53.044 W003°26.205

Nearest bus stop: Storey Arms

Tommy Jones GCGJHW

SO 0069221266
N51°52.863 W003°26.651

Nearest bus stop: Storey Arms

Ystradfellte - Fan Fawr GCI9B36

SN 96355 18959
N51°51.572 W003°30.389

Nearest bus stop: Storey Arms

Dingley Dell GCI4XKT

SN 9220028434
N51°56.634 W003°34.186

Nearest bus stop: Sennybridge Post Office

Clara's Craig-y-nos Caper GCT9JI

SN 84334 15789
N51°49.721 W003°40.794

Nearest bus stop: Craig-y-nos Country Park

The Sleeping Giant GCIFG3V

SN 82819 14216
N51°48.853 W003°42.081

Nearest bus stop: Abercraf Post Office

Crawshay Bailey GCIENXO

SO 20459 12263
N51°48.198 W003°09.300

Nearest bus stop: The Bridgend Pub, Brynmawr

Bryn Bach Park Two GCXZGN

SO 13072 09889
N51°46.851 W003°15.691

Nearest bus stop: The Crown, Tredegar

 


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf