Skip to main content

Canolfannau Marchogaeth a Merlota

Canolfannau Marchogaeth a Merlota

Mae ein canolfannau marchogaeth a merlota yn gofalu am bob marchog, o bob gallu. Os nad ydych wedi marchogaeth o’r blaen, mae Bannau Brycheiniog yn fan cychwyn gwych Mae marchogion profiadol wrth eu boddau gyda’r Bannau hefyd. Mae gan ein parc dirwedd ysblennydd, sy’n herio ac yn ysbrydoli.

Marchogaeth a merlota i ddechreuwyr

Mae holl ganolfannau’r Parc Cenedlaethol yn darparu ar gyfer dechreuwyr. Mae nifer o bobl yn eistedd ar gefn ceffyl am y tro cyntaf erioed yn ystod eu gwyliau yma, a gall hynny fod yn gychwyn ar ddiddordeb newydd. I eraill, mae’n ffordd wahanol o weld rhai ardaloedd o’r Parc na fyddai modd eu gweld fel arall. Mae’r holl ganolfannau merlota yn defnyddio llwybrau gwahanol, a bydd y rhan fwyaf ohonoch yn cael mentro i ucheldiroedd y Parc.

Marchogaeth a Merlota i wellhawyr

Os ydych yn marchogaeth yn barod, gall y canolfannau hyn drefnu teithiau cyflym, pell neu amrywiaeth o’r ddau. Mi fydd y ceffyl a chyflymder y daith wedi’u teilwra yn ôl eich gallu, ond cofiwch, bydd cyflymder y daith yn ddibynnol ar allu pawb yn y grŵp - felly os ydych am garlamu, efallai byddai’n syniad anfon y rhai dibrofiad yn eich plith i wneud rhywbeth arall am ychydig oriau - mae digon o opsiynau yma!

Marchogaeth a merlota profiadol

I’r rheiny ohonoch sy’n hyderus, gallwch fwynhau teithiau egnïol fyny’r mynyddoedd, ac ar hyd y llwybrau sy’n eich arwain yna. Mae gan y rhan fwyaf o’r canolfannau amrywiaeth eang o geffylau i chi ddewis, ac yn fwy na pharod i deilwra teithiau i weddu’ch gofynion a’ch diddordebau.

Canolfannau Marchogaeth a Merlota trekking centres

Mae ein canolfannau marchogaeth a merlota yn cynnig:

  • Teithiau hanner dydd ar gyfer pob gallu, o ddechreuwyr i’r profiadol
  • Teithiau diwrnod, gyda seibiau mewn tafarndai a mannau â golygfeydd trawiadol
  • Gwyliau marchogaeth, o ddau i saith diwrnod
  • Merlota, teithiau hanner diwrnod neu ddiwrnodau llawn

Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf