Skip to main content

Pysgota

Pysgod cangen las (grayling) heb eu tebyg yn afon Gwy, pysgota brithyll brown rhagorol ar afon Wysg, a nifer o gronfeydd dŵr a llynnoedd llawn pysgod sy’n sicrhau bod pysgota yn un o weithgareddau mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Parc yn cynnig pysgota bras ardderchog neu bysgota gêm mewn afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd. Mae gennym hefyd ddewis da o westai gwledig sy’n cynnig croeso arbennig i bysgotwyr ac eraill sy’n mwynhau’r awyr agored.

Er mwyn pysgota gyda gwialen yng Nghymru, Lloegr neu ardal Border Esk yr Alban, bydd angen trwydded gwialen, sy’n ddilys am ddiwrnod, wyth niwrnod neu flwyddyn gron (1 Ebrill - 31 Mawrth), a gellir eu cael o Swyddfa’r Post, drwy alw mewn, neu drwy ffonio (0844 800 5386) neu ar-lein (www.postoffice.co.uk).

Ble i bysgota ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Afon Gwy

Mae afon Gwy yn tarddu bron 700m uwch lefel y môr ym mynyddoedd anghysbell y Cambria. Llifa am 260km (160 milltir) gan gyffwrdd â’r Parc yn ardal Y Gelli cyn mynd yn ei blaen i aber afon Hafren yng Nghas-gwent. Gall pysgotwyr bras ddisgwyl barfogiaid, tybiau’r dail, rhufelliaid a dars ac mae’r draenogiaid dŵr croyw a’r penhwyaid yn llechu ac yn hela yn y pyllau dwfn. Gellir prynu tocyn dydd i’r rhan fwyaf o leoliadau.

Afon Wysg

Afon bwysig i eogiaid a hefyd i frithyllod yw’r Wysg, sy’n llifo drwy’i dyffryn gogoneddus o Aberhonddu i’r Fenni cyn gorffen ei thaith ym Môr Hafren.

Mae Sefydliad Gwy ac Wysg ( www.wyeuskfoundation.org) yn elusen gofrestredig sy’n canolbwyntio ar adfer cynefin, ansawdd dŵr a physgodfeydd afonydd Gwy ac Wysg. Mae’n cyhoeddi Pasbort Gwy ac Wysg, sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i bysgota’r ddwy afon, deunydd addysgol a manylion am y sefydliad a’r ddwy afon.

Cronfa Ddŵr Tal-y-bont

Lleolir Cronfa Tal-y-bont yng nghwm coediog Caerfanell, ger Tal-y-bont ar Wysg.

Mae’n bysgodfa gynhyrchiol sydd ag enw da am frithyll.

Gellid cael trwyddedau pysgota ar y safle neu o’r peiriant ger y gwaith trin dŵr. Cysylltwch â Dŵr Cymru   ( www.dwrcymru.com)  am wybodaeth bellach.

Cronfa Ddŵr Wysg

Lleolir Cronfa Wysg 320m uwch lefel y môr ar ben uchaf Cwm Wysg.

Mae’n bysgodfa wych ar gyfer brithyll mewn ardal dawel ac anghysbell o’r Parc o dan gribau Bannau Sir Gâr.

Gellir cael trwyddedau pysgota o’r peiriant ger wal yr argae. Cysylltwch â Pysgota yng Ngwlad y Barcud (www.fishing-in-kite-country.co.uk)  a Dwr Cymru  ( www.dwrcymru.com)  am wybodaeth bellach.

Llyn Syfaddan

Llyn Syfaddan (Llan-gors) yw llyn naturiol mwyaf de Cymru. Mae’n enwog am ei bysgota bras am benhwyaid, ac mae yno hefyd ddraenogiaid, rhufelliaid, merfogiaid, sgretenod a llysywod. Mae caniatâd i bysgota o gwch yn unig, nid o’r lan.

Os nad ydych o dan 16 oed, yn ogystal â thrwydded gwialen (ar gael o Swyddfa’r Post), bydd angen trwydded ddydd arnoch o’r Ganolfan Logi Cychod, ym Mharc Carafanau a Gwersylla, Comin Llan-gors, sydd hefyd yn llogi cychod pysgota.

Mae’r llyn yn Ardal Gadwraeth Arbennig a rhaid dychwelyd pysgod i’r dŵr ar ôl eu dal.

Camlas Mynwy ac Aberhonddu

Wrth ochr afon Wysg mae camlas gul a hardd lle gallwch bysgota am frithyll, carp, dars a draenogiaid yn y dŵr araf, tawel. Mae llwybr y gamlas yn Nhal-y-bont yn addas i gadeiriau olwyn.

Gellir cael trwyddedau pysgota o’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghaerloyw: (Canal and River Trust, The Dock Office, Commercial Road, Gloucester, GL1 2EB, tel 03030 404040,www.canalrivertrust.org.uk).

Gwybodaeth gyffredinol

Mae gwybodaeth gyfoes, fanwl ar safleoedd pysgota a thrwyddedau ar gael o’n Canolfannau Ymwelwyr a Swyddfeydd Twristiaid, Dŵr Cymru  ( www.dwrcymru.com), Asiantaeth yr Amgylchedd  ( www.environment-agency.gov.uk)  a Physgota yng Nghymru   ( www.fishing-in-wales.com).

Byddwch yn barod, byddwch yn gyfrifol a chadwch yn ddiogel

Am wybodaeth bwysig ynghylch diogelwch ac arfer da, gan gynnwys y drefn Gwirio, Glanhau, Draenio a Sychu, edrychwch ar ein hadran Byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel.

Mae’r parasit cas Gyrodactylus salaris, sydd ond yn hanner milimetr o hyd, yn medru byw mewn eogiaid ac yn gallu effeithio’n ddrwg ar eu niferoedd. Nid yw hwn wedi cyrraedd Cymru eto ac mae angen eich help i’w gadw allan o’r wlad. Os buoch chi’n pysgota neu’n hwylio yn Ewrop, yn enwedig yng Ngwledydd Llychlyn, golchwch eich offer mewn dŵr hallt a’i sychu’n ofalus.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf