Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych ar ôl eich gwybodaeth bersonol.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Y wybodaeth y dywedwch wrthym am eich hunan.
  • Gwybodaeth a ddysgwn amdanoch drwy eich cael fel cwsmer neu gyflenwr, cyflogai, gwirfoddolwr, defnyddiwr gwasanaeth, cefnogwr neu wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio fel awdurdod cyhoeddus
  • Y dewisiadau a rowch i ni ynghylch pa farchnata neu wybodaeth am yr Awdurdod y dymunwch i ni ei roi i chi.

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut yr ydym yn gwneud hyn, ac yn eich hysbysu  am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn.  Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cymerwch olwg ar ein gwefan o droi i dro er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

Pwy ydym ni

Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei greu yn awdurdod lleol  dibenion arbennig annibynnol o dan y Ddeddf Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).

Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni yma .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

DPO@beacons-npa.gov.uk

01874 624 437

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf