Skip to main content

Paratowch a chadwch yn ddiogel

Paratowch a chadwch yn ddiogel

Dylai rhai rhagofalon syml a dos reit dda o synnwyr cyffredin sicrhau bod eich ymweliad â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel ac yn bleserus.

Cyn rhoi cynnig ar unrhyw weithgareddau awyr agored, rydym yn argymell eich bod yn gwirio bod gennych yr hoff offer angenrheidiol, yn ogystal â dŵr, rhywbeth i’w fwyta a ffôn symudol.

Cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd a pharatoi at y tywydd gwaethaf posibl, boed yn law, gwres neu oerfel.

Peidiwch â dechrau allan heb ddweud wrth rywun i ble rydych chi’n mynd a phryd ydych chi’n disgwyl bod nôl.

Ble bynnag yr ewch, cofiwch gymryd cyngor lleol ynghylch unrhyw beryglon naturiol y gallech eu hwynebu.

Os ydych yn amhrofiadol ac ychydig yn ansicr, mae’n syniad da chwilio am dywysydd lleol, hyfforddwr neu grŵp a drefnwyd.

Yn olaf, dilynwch y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Dyfrffyrdd.

Yn fwy na dim, cofiwch fwynhau!


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf