Skip to main content

Beth i’w wneud ar y dŵr

Beth i’w wneud ar y dŵr

Mae amrywiaeth o chwaraeon padlo a hwylio ar gael o fewn y Parc Cenedlaethol ac mae llawer o hyfforddwyr a thywyswyr lleol ardderchog ar gael i'ch helpu chi i ddechrau, ac i’ch helpu i wella neu roi gwybodaeth leol i gael y profiad gorau ar y diwrnod..

Os mai pysgota sy’n cymryd eich ffansi, yna dilynwch y ddolen hon i’n tudalennau pwrpasol.

1. Sesiynau blasu (i ddechreuwyr)

Gall hyfforddwr cymwys a phrofiadol eich arwain a’ch hyfforddi chi, a rhoi blas i chi ar yr her o badlo. Mae llawer o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored yn Ne Cymru yn gallu rhoi cyflwyniad i’r gamp gyffrous yma. Mae hefyd yn bosibl llogi canŵod, caiacau a byrddau sefyll ar rai rhannau o'n hafonydd, camlesi a’n llynnoedd.

2. Sesiynau gwella (ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd a rhai sy’n magu sgiliau)

Ydych chi wedi ystyried gwersi tywys neu breifat? Os ydych wedi rhoi cynnig arno, yn ei hoffi ac yn awyddus i wneud mwy, yna gall hyfforddwr eich tywys ar y llwybrau gorau sydd gan yr ardal i'w gynnig, neu ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i chi ddod yn badlwr annibynnol.

3. Profiadau annibynnol (ar gyfer selogion ac arbenigwyr)

Os ydych eisoes yn badlwr ac yn chwilio am ychydig o antur, yna rydych yn y lle iawn. Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog amrywiaeth o gamlesi, llynnoedd, cronfeydd dŵr ac afonydd – y cyfan mewn lleoliadau prydferth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf