Skip to main content

Llwybrau teithio beicio heb draffig

Llwybrau teithio beicio heb draffig

Mae yna pump llwybr teithio beicio heb draffig, cymedrol a argymhellir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Maent yn berffaith ar gyfer taith feicio hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan ac yn ffordd wych o ddangos ein cefn gwlad brydferth i chi, eich teulu neu eich ffrindiau.

Ddaethoch chi ddim â’ch beic? Peidiwch â phoeni. Mae gennym ddigon o weithredwyr hurio beiciau a busnesau beiciau a fydd yn dosbarthu beiciau i chi neu’n eich casglu chi a’r beic unwaith y byddwch yn barod i ddod yn ôl.

Mae pellter ein llwybrau yn amrywio o bump i 11 milltir. Mae rhai yn hamddenol ac yn wastad, ond mae eraill yn cynnwys tipyn o waith dringo. Pam na ddechreuwch chi gyda llwybr hamddenol Aberhonddu i Lwybr Tynnu Talybont ac adeiladu o’r fan honno?

Llwybr Cronfa Ddŵr Wysg

Taith o amgylch y gronfa ddŵr.

Dechrau: Coedwig Glasfynydd, cyfeirnod OS SO820271
Pellter: 10km / 6 milltir
Graddiant: rhai bryniau
Amser: 2 awr
Addas ar gyfer: 5 oed a throsodd, beiciau hybrid mwy cadarn neu feiciau mynydd
Parcio: maes parcio mawr yng Nghoedwig Glasfynydd
Toiledau cyhoeddus: dim
Cyfleusterau eraill: byrddau picnic yng Nghoedwig Glasfynydd
Atyniadau teuluol: Castell Carreg Cennen, Gorsaf Fwydo Barcutiaid Coch yn Llanddeusant

Croeswch y ffordd o’r maes parcio ac ewch drwy’r gât i ddilyn y cyfeirbwyntiau llwybr beicio coch. Nawr ewch ymlaen i ddilyn y rhain yr holl ffordd o amgylch y gronfa ddŵr, ar draws yr argae ac ar hyd darn byr o’r ffordd. Mae mwy o arwyddion yn pwyntio’n ôl i mewn i’r goedwig ac yna’n ôl i’r maes parcio.

 

Cronfa Ddŵr Talybont i Dorpantau

Gogoniant y daith hon yw ei bod hi’n mynd i fyny ar y ffordd allan ac yn dod i lawr ar y ffordd yn ôl i orffen. Mae’n her i gyrraedd y top ond o leiaf gallwch feicio’n rhydd ar y ffordd yn ôl. Mae’r golygfeydd yn wefreiddiol ac mae’n werth yr ymdrech.

Dechrau: argae Cronfa Ddŵr Talybont, cyfeirnod OS SO103205, neu’r maes parcio, cyfeirnod OS SO099197
Pellter: 9km / 5.5milltir bob ffordd
Graddiant: dringfa hir, raddol
Amser: 1.5 awr tuag allan ac o leiaf 30 munud yn ôl
Addas ar gyfer: pob oedran, pob math o feic
Parcio: maes parcio mawr 400m o’r dechrau
Toiledau cyhoeddus: yn Nhalybont-ar-Wysg
Cyfleusterau eraill: weithiau mae fan hufen iâ wrth yr argae, nifer o dafarnau yn Nhalybont-ar-Wysg, caffi
Atyniadau teuluol: taith gerdded Henry Vaughan

O’r maes parcio trowch i’r dde am hanner milltir yna trowch i’r dde a beiciwch ar draws yr argae, yna trowch i’r dde i ddilyn arwyddion Llwybr Taf i fyny i’r goedwig. Ewch ymlaen mor bell ag ydych chi eisiau neu hyd nes y cyrhaeddwch gât sy’n arwain allan i’r ffordd yn Nhorpantau. I ddod yn ôl, dilynwch yr un llwybr.

Llanfoist i Geunant Clydach

Darn ag wyneb da o lwybr beicio heb draffig y gallwch ei feicio yn ei gyfanrwydd o Lanfoist i Glydach. Mae’n dilyn cwrs hen linell reilffordd. Mae’r golygfeydd o’r gamlas ar yr adran isaf ac ar draws Ceunant Clydach yn wefreiddiol.

Dechrau: Croesfan Llanfoist, cyfeirnod OS SO286132
Pellter: 7.5km / 5 milltir bob ffordd
Graddiant: dringfa hir, raddol gydag un adran serth iawn yn agos at y diwedd
Amser: 1.5 awr tuag allan ac 1 awr yn ôl
Addas ar gyfer: y rhan fwyaf o feiciau ar wahân i dandemau a beiciau hir/llydan eraill.
Parcio: maes parcio mawr yng Nghroesfan Llanfoist
Toiledau cyhoeddus: yn y Fenni
Cyfleusterau eraill: dim

Ewch drwy’r gât ar dop y maes parcio a dilynwch y llwybr sydd wedi’i farcio’n glir tuag i fyny, gan basio’n agos i’r gamlas. Cadwch yn syth ymlaen yng Ngofilon, lle mae’r llwybr yn pasio drwy dai ac yn croesi ffordd gyhoeddus ac yna’n pasio maes parcio’r Ceunant cyn dechrau dringo’n serth tuag at Glydach. Mae yna adran ar ffyrdd cyhoeddus cyn y dringfeydd rheilffordd i Frynmawr.

Glanfa Goytre i Lanfoist

Taith feicio hirach ac ychydig yn anoddach ond yn wastad yn bennaf. Dylai fod o fewn gallu’r rhan fwyaf o feicwyr, hyd yn oed y rhai ifanc. Taith llawn golygfeydd, yn beicio o amgylch godreon tir ffermio prydferth gyda golygfeydd hyfryd o fynyddoedd yn y pellter. Am ddiwrnod heriol iawn gallwch gysylltu’r daith hon â Llwybr Beicio Cenedlaethol 46 yn Llanfoist.

Dechrau: Glanfa Goytre, cyfeirnod OS OS312063
Pellter: 9km / 5 milltir bob ffordd
Graddiant: gwastad yn bennaf
Amser: 1.5 awr
Addas ar gyfer: pob oedran, pob math o feiciau
Parcio: maes parcio mawr yng Nglanfa Goytre
Toiledau cyhoeddus: yng Nglanfa Goytre
Cyfleusterau eraill: Caffi a mannau chwarae yng Nglanfa Goytre

Ewch heibio i’r adeiladau a thrwy dwnnel byr (dyfrbont) o dan y gamlas, yna trowch i’r chwith i ymuno â’r llwybr halio. Parhewch ar hyd y llwybr hwn hyd nes y cyrhaeddwch lwybr igam ogam, rhwng Llanfoist a Gofilon sy’n mynd â chi i lawr at yr hen linell reilffordd, Llwybr Beicio Cenedlaethol 46.

Aberhonddu i Loc Brynich

Darn gwastad byr o lwybr tynnu’r gamlas sy’n arwain at loc sy’n gweithio ac ardal bicnic mewn lleoliad hyfryd. Does dim problemau i ddod o hyd i’r ffordd gan fod y daith yn dilyn y gamlas yr holl ffordd a dim problemau traffig.

Dechrau: Basn Camlas Aberhonddu, cyfeirnod OS SO046282
Pellter: 9km / 5.5 milltir
Graddiant: gwastad
Amser: 1.5 awr bob ffordd
Addas ar gyfer: pob oedran, pob math o feic
Parcio: Maes parcio talu ac arddangos enfawr ym Masn Camlas Aberhonddu
Mynediad: Bws Beicio’r Bannau
Toiledau cyhoeddus: yn Aberhonddu
Cyfleusterau eraill: ardal bicnic ger Loc Brynich, digon o gaffis, tafarnau a gwestai yn Aberhonddu.
Atyniadau teuluol: Fferm Antur a chanolfan farchogaeth Cantref, Y Sgubor Chwarae ym Mrynich, Amgueddfa Cyffinwyr, Amgueddfa Sir Frycheiniog, Canolfan Hamdden Aberhonddu.

O’r maes parcio, ewch ar draws y ffordd fynediad i ddechrau’r gamlas a dilynwch y lôn darmac ar hyd glannau’r ochr dde, gyda’r dŵr ar y chwith i chi. Yna mae hwn yn disgyn i’r llwybr tynnu wrth y bont gyntaf. Nawr dilynwch hwn yr holl ffordd i Loc Brynich lle mae gât yn rhoi mynediad i lôn gul. Croeswch y lôn i gyrraedd yr ardal bicnic. I ddod yn ôl, dilynwch yr un llwybr.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf