Skip to main content

Gwestai Sba a Chanolfannau Therapi Amgen

Gwestai Sba a Chanolfannau Therapi Amgen

Yma yn y Parc Cenedlaethol rydym ni’n ffodus iawn i gael sawl gwesty sba, encilion a chlinigau bendigedig mewn amgylcheddau prydferth, hardd.

Ystyrir sba yn rhywbeth moethus, ond, yn ôl arbenigwyr, yn ogystal â’ch gwneud i edrych yn brydferth, gallant wneud i chi deimlo’n well.

Mae sawl triniaeth sba’n cynnig manteision meddygol. Mae tylino, er enghraifft, yn gallu helpu i leddfu straen a gwella swyddogaethau dadwenwyno’r system lymffatig yn ogystal â gwella cylchrediad y gwaed.

Manor Hotel

Brecon Road, Crucywel NP8 1SE, Cymru, ffôn 01873 810212,

Cyfleusterau’n cynnwys: Pwll nofio 8m x 4m wedi’i gynhesu, sawna, ystafell stêm, jacuzzi, campfa

Peterstone Court

Llanhamlach, Aberhonddu LD3 7YB, Cymru, ffôn 01874 665387,

Mae gan y sba yn Peterstone Court enw da am arbenigedd. Mae wedi’i leoli mewn ceudyllau cromennog a ddefnyddiwyd fel seleri tŷ, ac mae rhai’n tybio fod bod yn agos at y ddaear ym Mannau Brycheiniog yn creu egni’n naturiol, ac felly’n ei wneud yn lleoliad perffaith.

Mae Peterstone Court yn cynnig dull holistig gan ddefnyddio cynnyrch naturiol, organig, athroniaeth a ddaeth o’r prif dŷ. Mae’r sba yn rhoi’r cyfle i chi ymlacio yn y Jacuzzi, dadwenwyno yn y sawna, nofio yn y pwll cynnes tymhorol awyr agored neu gadw’n heini yn y gampfa. Gall gwesteion eistedd yn yr ystafell ymlacio steil Moroco ar ôl triniaeth a mwynhau.

Bydd y golygfeydd o Cribyn a Phen y Fan o’r tŷ yn helpu’r broses. Gyda’r cyfuniad yma rydym yn siŵr y byddwch yn teimlo’n fodlon, yn ffres ac yn syml iawn - yn wych!

Yr Encil, Aberhonddu

Y Llawr 1af, Old Post Office, St Mary's Street, Aberhonddu LD3 7AA, Cymru, ffôn 01874 625358,

Triniaethau a therapi’n cynnwys: triniaethau dwylo a thraed, triniaethau llygaid, triniaethau wyneb, cwyro, tylino, gofal corff, chwistrellu lliw haul, partïon maldodi, pwll nofio dan do wedi'i wresogi (rhaid archebu lle). Dydd Mawrth-Sadwrn, trwy apwyntiad.


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf