Skip to main content

10 o leoedd i fynd i archwilio’r sêr

10 o leoedd i fynd i archwilio’r sêr

Cewch brofi ardderchowgrwydd yr wybren dywyll yn ogystal â’n Parc Cenedlaethol yn rhai o’r lleoedd anhygoel ac eiconig sydd gennym ni.

  • Dyma dri awgrym ar sut i wneud y mwyaf o’ch profiad ac i’n helpu ni hefyd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad cynnes – hyd yn oed yn yr haf, mae’r tymheredd yn gostwng ar ôl i’r haul fachlud. Mae rhoi haenau o ddillad ar ben ei gilydd yn gweithio’n well na gwisgo un gôt fawr.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich llygaid yn wyliadwrus o’r tywyllwch. Defnyddiwch olau beic coch neu peintiwch lens y dortsh gyda farnis ewinedd coch.
  • Byddwch yn barchus – mae llawer o’r tir yn y Parc Cenedlaethol yn eiddo preifat, ac mewn rhai mannau, mae llwybrau troed yn agos at gartrefi pobl. Peidiwch ag ymgynnull yn agos i’r mannau hyn a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd y tirfeddianwyr bob amser.Dyma restr o’n hoff leoliadau ni ar gyfer gwylio’r wybren dywyll.

1. Cronfa Ddŵr Wysg

SN 835285 N51.56.58 W03.41.55

Mae'r maes parcio yng nghronfa Wysg yn lle prydferth i gael picnic teuluol yn ogystal â bod yn lle delfrydol i fwynhau awyr dywyll ragorol. Mae'r ardal wastad eang yn eich galluogi i osod telesgopau ac mae'r mynediad ffordd o Drecastell yn golygu ei bod yn hawdd ei gyrraedd. Yn yr ardal hon gallwch fwynhau gweld y sêr ȃ’ch llygaid eich hun hyd at derfyn maint o 6.4 ac mae’r ardal wedi ei gwarchod rhag llygredd golau cymoedd y de.

2. Cronfa Ddŵr Crai

SN 886210 N51.54.52 W03.35.12

Nid yw’r gronfa yma mor hygyrch ag un Wysg, ond mae taith fer i lawr lôn fynediad yn caniatáu i chi osod telesgopau i fwynhau syllu ar y sêr hyd at derfyn maint o 6.37. Mae yna gilfannau hefyd ar hyd yr A4607 sy'n darparu lleoedd delfrydol i fwynhau harddwch yr awyr dywyll.

3. Priordy Llanddewi Nant Hodni

SO 288278 N51.56.41 W03.02.11

Wedi’i leoli yn un o gymoedd prydfertha’r Parc Cenedlaethol, mae’r adfail trawiadol yng ngwarchodaeth Cadw yn un o’n safleoedd mwyaf eiconig, ac yma fe welwch chi’r wybren dywyll ar ei gorau gyda maint cyfyngol o 6.35. Mae’r priordy wedi cau o 4pm bob dydd, ond mae’r perchnogion yn fwy na hapus i bobl sy’n syllu ar y sêr ddefnyddio’r maes parcio a mwynhau’r golygfeydd i mewn i’r priordy ac i fyny at Hatterrall Hill. Cofiwch fod perchnogion yn byw’n gyfagos ac mae gwesty preifat gerllaw hefyd, felly mae’n hanfodol eich bod yn dawel ac yn cadw i’r ardal ddynodedig.

4. Penybegwn

SO 239373 N 52.01.43 W03.06.34

Mae'r ffordd dros Fwlch yr Efengyl o Landdewi Nant Hodni i'r Gelli Gandryll yn dod â chi i'r maes parcio ar Benybegwn, sef bryn yn edrych dros ddyffryn Gwy gyda golygfeydd gwych dros Bowys a Swydd Amwythig i'r gogledd-orllewin bell. Mae gan yr awyr derfyn maint o 6.34. Tref Y Gelli yw'r ganolfan fwyaf o siopau llyfrau ail law tu allan i Lundain, sy’n gwneud hwn yn lle da i chwilio am deitlau seryddiaeth.

5. Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (Y Ganolfan Fynydd)

SN 978264 N51.56.02 W 03.28.40

Mae yna arwyddion ar y brif ffordd A470 ym mhentref Libanus yn dangos lle mae’r Ganolfan Ymwelwyr ac mae’n hygyrch iawn ddydd a nos. Gallwch fwynhau awyr gyda therfyn maint o 6.37 - mae'r ganolfan yn un o'r ardaloedd gorau a mwyaf hygyrch i osod telesgopau ac mae o fewn taith awr i bob un o gymoedd de Cymru. Mae'r ganolfan wedi ei lleoli ar dir comin gweithiol felly rydym yn gofyn i chi barchu trigolion lleol os gwelwch yn dda a pharcio o fewn y maes parcio yn y canol a dim ond defnyddio ein tir yn ystod y nos fel nad ydych yn tarfu ar bobl eraill.

6. Pen Rhiw Ddu

SN 730192 N51.51.13 W03.50.31

Mae'r maes parcio oddi ar y ffordd droellog rhwng Llandeilo a Brynaman dros y Mynydd Du yn lleoliad gwych gan fod mynediad da o Gwm Tawe a digon o le ar gyfer telesgopau. Mae hefyd yn edrych dros dywyllwch Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda’r awyr yma yn cynnig terfyn maint o 6.31.

7. Carreg Cennen

SN 668193 N51.51.12. W03.56.02

Mae'r castell anhygoel yng Ngharreg Cennen, sy’n eistedd ar glogwyn calchfaen enfawr, yn cynnig diwrnod allan gwych gyda golygfeydd syfrdanol ar draws y dyffryn i'r gorllewin ac un o'r awyr dywyllaf yn y rhanbarth ar derfyn maint o 6.26. Mae'n hygyrch o Landeilo, Caerfyrddin a Rhydaman ac mae o fewn siwrnai awr o gymoedd De Cymru a pherfeddwlad wledig Gorllewin Cymru.

8. Parc Gwledig Craig-y-nos a Chastell Craig-y-nos

SN 840161 N51.50.16 W03.40.29

Castell Craig-y-nos yw hen gartref y gantores opera Adelina Patti, un o’r sopranos enwocaf mewn hanes. Mae gan yr awyr yma derfyn maint o 6.30 ac yn hygyrch iawn ar y ffordd o Abertawe ac Aberhonddu.

9. Mynydd Pen-y-fȃl

SO 268167 N51.50.30 W03.03.34

Mae'r bryn sy’n dominyddu'r gorwel o'r Fenni yn hygyrch oddi ar ffordd fawr yr A40. Y terfyn maint yma yw 6.10 a byddwch yn mwynhau golygfa eang dros y de a'r gorllewin gan osgoi llawer o lygredd golau'r trefi i'r de.

10. Llyn Syfaddan

SO 127270 N51.56.07 W03.16.13

Yn hygyrch iawn o gymoedd De Cymru a Chanolbarth Lloegr ar hyd ffordd yr A40, mae yna ddigon o leoedd i osod telesgopau yn Llyn Syfaddan. Mae'n rhannu lleoliad gyda chanolfan gweithgareddau awyr agored, sydd â rhywfaint o oleuni ond gyda therfyn maint o 6.24 gobeithio nad yw’n fawr o ymyrraeth mewn llecyn mor brydferth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf