Skip to main content

Gwylltgrefft a chwilota am fwyd

Gwylltgrefft a chwilota am fwyd

Mae gwylltgrefft yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd ac mae tirweddau naturiol hardd Bannau Brycheiniog yn berffaith ar gyfer yr arbenigwyr sydd wrth eu boddau’n mireinio’ch sgiliau goroesi. Os hoffech chi wthio’ch hun i’r eithaf a dysgu sut i oroesi yn y gwyllt, gallwch wneud hynny yn ein Parc Cenedlaethol, ardal sy’n gyfoethog mewn llystyfiant, bywyd gwyllt a choetir. Dyma lle mae catrawd elît yr SAS yn dod i ddysgu am oroesi, ac mae'r mynyddoedd, coedwigoedd, gwrychoedd ac afonydd yn llawn o fwydydd gwyllt sy'n eithaf bwytadwy. Felly beth am drefnu diwrnod o wylltgrefft? Yma yn y Parc Cenedlaethol, mae’n hawdd dod o hyd i dywysydd gwybodus i fynd â chi i'r gwyllt a’ch dysgu sut i oroesi.

So how about booking a bushcraft guide for the day?  Here in the National Park you won’t struggle to find a knowledgeable guide who can take you out into the wild and teach you the ways of survival.

Chwilota am fwyd

Mwynhewch harddwch Bannau Brycheiniog tra'n casglu bwyd ffres, blasus sy’n rhad ac am ddim. Mae tirwedd Bannau Brycheiniog yn berffaith ar gyfer chwilota am fwyd. Ac yn well fyth, gallwch ddysgu oddi wrth y gorau yn y maes - mae arbenigwyr cyfeillgar sydd â gwybodaeth leol ddi-ben-draw yn barod i'ch helpu i ddysgu sut i chwilota am fwyd a sgiliau awyr agored, fydd yn rhoi hwb go lew i’ch lefelau ffitrwydd a’ch gallu ymarferol yr un pryd.


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf