Skip to main content

Gweithgareddau grŵp ac adeiladu tîm

Gweithgareddau grŵp ac adeiladu tîm

Gyda llwyth o gwmnïau gweithgareddau brwd a digon o ddewis ar gyfer llety addas i grwpiau, mae Bannau Brycheiniog yn ddewis cyffrous ar gyfer gwyliau grŵp neu daith adeiladu tîm.

Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lawer iawn i’w gynnig i grwpiau o fyfyrwyr, teuluoedd, ffrindiau, partïon plu a stag neu grwpiau corfforaethol.

Gallwch drefnu sesiwn rheolaidd o weithgareddau neu gofynnwch i un o’n trefnwyr profiadol i baratoi rhaglen arbennig i chi a all fod yn gymysgedd o weithgareddau hwyl, heriau corfforol neu ymarferion datrys problemau. Gall eich taith gael ei threfnu er mwyn datblygu sgiliau rheolaeth ac arwain, neu’n syml yn ddigwyddiad llawn hwyl a fydd yn eich adfywio a’ch cryfhau fel grŵp.

Mae’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

Gweithgareddau Dŵr

Yn cynnwys canŵio, caiaco, bwrdd padlo-ar-eich-traed , rafftio dŵr gwyn, adeiladu rafftiau, hwylio, bordhwylio …

Cerdded a marchogaeth

Cerdded y bryniau, cyfeiriannu, geogelcio, beicio, beicio mynydd, beicio cwad, marchogaeth ceffylau, trecio â merlod …

Natur ac adeiladu sgiliau

Llywio, byw yn y gwyllt, gwylio byd natur, saethyddiaeth, saethu colomennod clai

Gweithgareddau Antur

Ogofa, dringo creigiau, abseilio, cerdded hafnau, rhaffau a sipwifrau


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf