Skip to main content

Podlediadau Syllu ar y Sêr

Podlediadau Syllu ar y Sêr

Mae’r podlediadau hyn wedi’u paratoi gan Nick Busby, sêr syllwr, astroffotograffydd a chyfathrebwr gwyddoniaeth profiadol o Gymdeithas Astronomeg Wysg.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y sylwebaeth yn y podlediadau’n helpu sêr syllwyr newydd a rhai mwy profiadol i ganfod y gwahanol sêr yn yr awyr  Efallai y byddai’n ddefnyddiol gwrando ar y podlediad a'i ddilyn ar siart sêr neu ap ffôn yn gyntaf i ddod yn gyfarwydd â lle mae’r gwahanol bethau cyn mynd allan ac edrych i fyny.

Does dim angen unrhyw offer arbennig, mae'r rhan fwyaf o ddigon o’r pethau i'w gweld â llygad noeth, er y byddai binociwlar o help i weld rhai'n gliriach.   Peidiwch â phoeni os byddwch chi’n mynd ar goll weithiau, mae cymryd ychydig o ymarfer i syllu ar y sêr, gwrandewch ar y sylwebaeth eto a byddwch hen law arni cyn pen dim.

Crynodeb o gynnwys y podlediadau

Ionawr Chwefror

Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar gytser aeaf ysblennydd Orion. Byddwn yn archwilio ei sêr anferth sydd wedi’u tynghedu i ddiweddu eu dyddiau fel uwchnofa.   Y gytser hon yw cartref Nifwl Fawr Orion, lle mae sêr newydd yn cael eu geni, a byddwn yn gallu gweld y  sêr o’u genedigaeth hyd at eu marwolaeth.   Byddwn n troi i lawr at Canis Fwyaf i weld deiamwnt awyr y gaear, Sirius.

 

Mawrth Ebrill

Mae triongl y gaeaf yn cynnwys y sêr disgleiriaf mewn chwech o'r cytserau gaeaf mwyaf amlwg, ac yn ein helpu i'w canfod ac i'w hadnabod. Yn y sesiwn hon, byddwn yn ymweld ag Orion, Taurus, Auriga, Gemini, Canis Leiaf a Canis Fwyaf.

 

Mai Mehefin

Byddwn yn dechrau’r sesiwn hon gyda Leo y llew, y cytser gwanwyn ysblennydd, cyn symud i’r dwyrain at y disglair Arcturus yn Boötes.  Yna, byddwn yn mynd tua’r de i ymweld â rhai o’r sêr disgleiriaf yn Virgo y forwyn, cyn troi’n ôl tua’r gogledd trwy deyrnas o alaethau i weld y gogoneddus Glwstwr Coma yn Coma Berenices.  Byddwn yn gorffen y daith drwy fynd trwy goron y gogledd Corona Borealis yng Nglwstwr Crwn Mawr Hercules.

 

Gorffennaf Awst

Byddwn yn cychwyn trwy chwilio am gewri nwy Jupiter, Iau, a Saturn, Sadwrn, cyn troi at y Llwybr Llaethog a thriongl yr haf.   Mae’n cynnwys rhai o’r sêr disgleiriaf yn Cygnus yr alarch, Lyra'r delyn neu'r delyn fach, a Aquila yr eryr.   Yna, byddwn yn teithio i fyny’r Llwybr Llaethog ac yn dysgu am chwedl Cassiopeia, merch hardd brenhines o Affrica a’i merch, yr anffodus Andromeda. Dyma’r adeg o’r flwyddyn i weld sêr gwib.

 

Medi Hydref

Byddwn yn cychwyn gyda’r blaned goch, Mars, Mawrth, cyn dysgu am rai o gewri sêr y Llwybr Llaethog, megis Deneb yn Cygnus.   Byddwn yn dysgu sut i ganfod Galaeth anferth Andromeda, y peth pellaf y gallwch ei weld gyda'r llygad noeth a'r Galaeth Triangulum, drwy neidio drwy'r sêr o sgwâr Pegasus. Byddwn yn gorffen drwy ymweld â seren ddwbl hardd Almach.

 

Tachwedd Rhagfyr

Cytser Taurus y tarw yw ein un gyntaf, gyda’r gawres goch Aldebaran. Byddwn yn archwilio clystyrau agored agos Hyades a Pleiades ac yn gorffen drwy edrych ar gytser Auriga’r gerbydres ryfel gyda’i gosgordd o glystyrau agored, a'r seren ddisglair Capellan.

Awgrymiadau a gyfer syllu ar y sêr.

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwisgo’n gynnes, mae’n gallu bod yn llawer oerach na’r disgwyl, hyd yn oed ym misoedd yr haf, o dan awyr serennog.
  2. Gadewch i’ch llygaid gynefino’n llawn â’r tywyllwch.   Gall hyn gymryd tua 10-15 munud heb edrych ar oleuni nac ar eich ffôn.   Os byddwch eisiau defnyddio ap ffôn, gwnewch yn siŵr bod y ffôn yn cael ei gosod ar y lleiaf llachar.   Gallwch ddefnyddio tortsys coch heb amharu ar eich golwg y nos.
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae'r de, mae pob sesiwn yn cychwyn drwy edrych tua’r de.   Os byddwch yn cychwyn yn wynebu i gyfeiriad gwahanol, gallech gael eich drysu.
  4. Treuliwch amser yn dysgu am ffurfiau a safle ychydig o gytserau i ddechrau a chynyddu eich gwybodaeth yn y sesiynau dilynol.
  5. Mwynhewch!


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf