Skip to main content

Anturiaethau yn yr awyr

Anturiaethau yn yr awyr

Mae glaswellt caeau a bryniau’r Parc yn ddelfrydol i baragleidwyr a barcutwyr godi a disgyn. Bydd rhai peilotiaid yn hedfan dros 300m ar draws gwlad ac yn codi i 4 milltir! Mae gleidwyr hefyd yn hoffi hedfan yn uchel dros y dirwedd donnog, wyrdd.

Gallech gael hyfforddiant yn un o'n hysgolion cydnabyddedig, sydd hefyd yn lleoliadau da i’r rheini sy’n hoffi gwylio o ddiogelwch y ddaear.

Os oes gennych drwydded eisoes, cysylltwch â chlwb lleol i ofyn ble y gallwch hedfan. Dim ond safleoedd cydnabyddedig gellid eu defnyddio.

Paragleidio a Barcuta

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r ardal o’i gwmpas yn cynnig rhai o safleoedd gorau’r DU ar gyfer paragleidio a barcuta. Mae cribau’r parc sy’n wynebu’r gogledd ac yn edrych dros dirwedd donnog canolbarth Cymru yn berffaith ar gyfer codi i’r awyr. Mae bryniau cyfagos eraill yn addas iawn hefyd. Gall peilotiaid esgyn dros gribau’r bryniau neu rannu thermal gyda bwncath yn cylchdroi’n uchel uwchben.

Mae Clwb Barcuta a Pharagleidio De Ddwyrain Cymru (www.sewhgpgc.co.uk) yn un o bum clwb rhanbarthol o fewn Ffederasiwn Hedfan Rhydd Cymru, y gymdeithas sy’n rheoli’r rhan fwyaf o safleoedd hedfan. Mae ganddo tua 400 aelod ac yn rheoli hedfan o sawl safle yn y Parc.

Mae croeso bob amser i ymwelwyr ar y safleoedd hyn, cyhyd â’u bod yn ad-dalu am y lletygarwch drwy gydymffurfio â rheolau’r safle. Mae nifer o’r safleoedd hedfan o dan gytundebau gyda ffermwyr sy’n pori’r tir, perchnogion tir a ffermwyr, a gosodir rheolau yn aml i gydymffurfio â’u hanghenion. Helpwch y Clwb, os gwelwch yn dda i ddal gafael ar eu safleoedd drwy ymddwyn yn gyfrifol.

Mae’n rhaid i bob un o beilotiaid [barcuta a pharagleidio] y DU fod yn aelodau o Gymdeithas Barcuta a Pharagleidio Prydain (BHPA, www.bhpa.co.uk). Rhaid i ymwelwyr o’r tu allan i’r DU ddangos fod ganddynt yswiriant trydydd-parti digonol a thrwydded graddfa briodol o’r FAI (Fédération Aéronautique Internationale, y Ffederasiwn Hedfan Rhyngwladol, www.fai.org).

Gleidio

Mae Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Du (www.blackmountainsgliding.co.uk) yn gweithredu o fferm ger Talgarth. O dan gribau gogleddol y Mynyddoedd Du, ynghanol caeau o ddefaid, nytha llwybr glanio a hosan wynt. Efallai oherwydd maint y cae, y llethr neu agosrwydd y mynyddoedd, mae’n debyg fod hyd yn oed peilotiaid profiadol yn ystyried y safle yn dipyn o her!

Mae’r clwb yn gyfeillgar ac yn arbenigol, a chewch groeso p’un ai ydych yn gwbl ddibrofiad yn edrych am daith dandem arbrofol neu’n hen law sy’n awyddus i fwynhau amodau ardderchog yr ardal.

Am wybodaeth bellach am gleidio, cysylltwch â’r Gymdeithas Gleidio Brydeinig (www.gliding.co.uk).

Barcuto pŵer

Barcut mawr gyda digon o nerth i’ch codi oddi ar y ddaear yw barcud pŵer. Mae cwmnïau gweithgareddau lleol yn cynnig i chi brofi hwyl barcuta pŵer yn Aberhonddu a Thalgarth.


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf