Skip to main content

MYNEDIAD HAWS YM MANNAU BRYCHEINIOG

MYNEDIAD HAWS YM MANNAU BRYCHEINIOG

Mae’r Canllaw Mannau Ymweld sydd â Mynediad Haws yn rhestru mannau addas i ymweld â nhw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bobl sydd naill ai’n anabl, yn llai symudol, â nam ar y golwg, yn hŷn, rhieni â phlant mewn cadeiriau gwthio neu hyd yn oed y bobl hynny sydd eisiau mynd am dro hamddenol yng nghefn gwlad heb unrhyw straen!

Mae nifer o’r lleoliadau a restrir yn rhoi cyfle i chi ymlacio a mwynhau natur unigryw’r ardal. Mae hefyd cyfle i ymweld â’r atyniadau niferus sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac o’i amgylch.

Mae’r safleoedd awyr agored a restrir wedi’u cynnwys oherwydd eu bod yn llawer mwy hygyrch. Mae’r dirwedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn golygu na fydd pob un o’r safleoedd hyn yn hygyrch i bawb. Fodd bynnag, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu pa fannau sy’n addas i chi ac yn annog unigolion a theuluoedd i archwilio Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

Mae erydiad naturiol llwybrau ac adrannau mwdlyd yn gallu bod yn broblem mewn rhai ardaloedd, ac felly gallai ansawdd arwyneb y llwybr amrywio rhwng safleoedd. Y sefydliad neu’r perchennog tir sy’n rheoli’r safle sy’n gyfrifol am gynnal a chadw pob safle. Os hoffech ragor o wybodaeth am y safle cyn eich ymweliad cysylltwch â’r sefydliad perthnasol neu ewch i’w gwefan.

 

 

 


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf