Skip to main content

Canolfan Groeso Garwnant

Canolfan Groeso Garwnant

Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant yng Nghoed Taf Fawr, ardal fawr o goedwigaeth yng nghanol Bannau Brycheiniog.

Gwybodaeth bellach:

Mae caffi, siop anrhegion ac ardal chwarae yn y ganolfan ymwelwyr. Yn agos at y ganolfan mae llwybr cerdded gyda mynediad hawdd yn rhedeg ochr yn ochr â’r nant ac mae llwyfannau dros bwll dŵr. Mae'r rhan fwyaf o'r safle poblogaidd hwn i deuluoedd, gan gynnwys yr ardaloedd chwarae, ar lethr. Mae nifer o gilometrau o lwybrau cerdded di-rwystr gydag arwyneb o garreg wedi’i chywasgu’n bennaf. Mae'r sglodion rhisgl ar lawr y mannau chwarae. Mae rhaglen o weithgareddau i blant o bob gallu drwy gydol y flwyddyn.

Sut i gyrraedd: Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant wedi’i harwyddo’n dda o'r A470, 7km i'r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae gwasanaeth bws cwmni Stagecoach o Ferthyr Tudful i Aberhonddu yn mynd heibio’n agos at y fynedfa (Ffôn: 0871 200 2233). Mae yna hefyd wasanaeth Bws y Bannau'n rhedeg ar Wyliau'r Banc a Suliau trwy gydol yr haf (Ffôn: 01873 853254). Mae'r ganolfan 500m o'r A470 i fyny llethr graddol.

Tref neu bentref agosaf: Merthyr Tudful.

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 16o - SO 003 132.

Pellter: O ychydig fetrau hyd at sawl milltir.

Cysylltwch â: Am ragor o fanylion ffoniwch y Ganolfan Ymwelwyr ar 01685 722481.

Cyfleusterau: Mae'r siopau a’r gorsafoedd petrol agosaf ym Merthyr Tudful. Gellir prynu trwyddedau pysgota ar gyfer Cronfeydd Dŵr Llwyn-onn, y Bannau a Chantref o Ganolfan Ymwelwyr Garwnant. Mae bwyty ar y safle yn gweini diodydd, byrbrydau a phrydau ysgafn - cysylltwch â Bwyty'r Teras ar 01685 373,053.

Parcio: Mae digon o le parcio yn y maes parcio talu ac arddangos. Mae mannau parcio i’r anabl yn nes at y prif adeilad.

Toiledau: Mae'r toiledau (gan gynnwys toiled i'r anabl) yn ymyl y prif adeilad ac maent yn cael eu cloi dros nos.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf