Skip to main content

Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel

Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel

Mae gan Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel gyfleusterau ardderchog ac mae'n fan cychwyn da ar gyfer ymweld â nifer o safleoedd hanesyddol diddorol gan gynnwys y castell, yr eglwys a'r Stryd Fawr.

Mae dewis diddorol o siopau yn y dref farchnad brysur hon ac mae dewis eang o lefydd i fwyta, yfed ac aros yn yr ardal.

Sut i gyrraedd: Mae Crucywel 8 km i'r gorllewin o'r Fenni ar yr A40. Mae Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel ger y maes parcio talu ac arddangos yng nghanol y dref.

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 217   185

Cysylltwch â: Crickhowell Resource and Information Centre Ffoniwch Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel ar 01873 811970.

Cyfleusterau: Mae Crucywel yn dref fechan, brysur gyda siopau, caffis, bwytai a thafarndai. Mae gwasanaeth bws o'r Fenni ac Aberhonddu.

Parcio: Mae'r maes parcio talu ac arddangos agosaf yng nghanol y dref.

Toiledau: e gan Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel doiledau gyda mynediad i’r anabl (RADAR).


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf