Skip to main content

Atyniadau mynediad hwylus

Atyniadau mynediad hwylus

Mae'r rhestr ar ochr chwith y dudalen hon yn nodi rhai o'r atyniadau sydd ar gael o fewn ac ar ffiniau'r Parc Cenedlaethol – mae’r rhifau’n cyfateb i'r rhifau ar y map y gallwch ei lawrlwytho.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle arbennig iawn sy’n cynnig ystod eang o weithgareddau er mwyn i’ch ymweliad fod mor fywiog neu mor hamddenol ag y dymunwch. Mae llawer o atyniadau twristiaeth fydd yn hapus i ddarparu ar gyfer eich anghenion penodol - o deithiau bad ar y gamlas i ferlota - cysylltwch ag un o'r nifer o Ganolfannau Gwybodaeth neu ewch i wefan y Parc Cenedlaethol am ragor o fanylion. Mae hefyd nifer o feysydd gwersylla yn y Parc Cenedlaethol sydd â chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr anabl.

Mae llawer o atyniadau hygyrch i ymwelwyr gan gynnwys amgueddfeydd, cestyll, safleoedd treftadaeth, rheilffyrdd stêm, ac ati

Gallwch hefyd lawrlwytho map sy’n dangos ble mae'r atyniadau.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf