Skip to main content

Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae’r amgueddfa lofaol hon, sy’n enillydd gwobr Gulbenkian, wedi’i lleoli ar Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon.

Gwybodaeth bellach:
Mae'r arddangosfa ar dair lefel, bob un ohonynt â rampiau mynediad hir a serth, a'r cyfle i fynd ar daith o dan y ddaear. Mae’r teithiau tanddaearol ar agor i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ond cysylltwch â'r Amgueddfa cyn eich ymweliad.

Sut i gyrraedd: Mae Big Pit wedi’i arwyddo o Flaenafon.

Tref neu bentref agosaf: Blaenafon

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 237 087.

Cysylltwch â: Am ragor o fanylion ffoniwch 01495 790311 neu ymweld â gwefan Amgueddfa Cymru

Cyfleusterau: Mynediad am ddim ac ar agor y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Siop goffi, ffreutur, siop anrhegion, cyfleusterau newid babanod a theithiau o dan y ddaear i gyd ar gael ar y safle.

Parcio: Digon o le parcio’n rhad ac am ddim ger yr amgueddfa.

Toiledau: Mae’r toiledau gyda chyfleusterau addas ar bob lefel, ond ddim o dan y ddaear.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf