Skip to main content

Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru

Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru

Mae'r amgueddfa’n adrodd hanes Catrawd Frenhinol Cymru, gan gynnwys arddangosfeydd o nifer o’r ymgyrchoedd, megis Rhyfel y Zulu, y bu’n rhan ohonynt. Mae'r fynedfa i'r amgueddfa yn wastad.

Sut i gyrraedd: Mae'r Amgueddfa ar y Watton ger prif farics y fyddin yn Aberhonddu.

Tref neu bentref agosaf: Aberhonddu

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger - SO 049 283.

Cysylltwch â: :Ffoniwch 01874 613310.

Cyfleusterau: Mae digon o siopau, caffis a thafarndai gerllaw. Gellir cyrraedd Aberhonddu ar fws o ganolbarth a de Cymru.

Parcio: Mae lle parcio ar y stryd ar hyd Y Watton (B4601).

Toiledau: Mae'r toiledau agosaf, gan gynnwys toiledau i’r anabl ym maes parcio’r Farchnad yng nghanol y dref.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf