Skip to main content

Gorsaf Fwydo’r Barcud ar y Mynydd Du

Gorsaf Fwydo’r Barcud ar y Mynydd Du

Mae Gorsaf Fwydo Barcutiaid yn Llanddeusant wedi'i lleoli mewn ardal anghysbell yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r safle’n denu dros 50 o Farcutiaid a Boncathod bob dydd mewn arddangosfa awyr ysblennydd.

Gwybodaeth bellach

Mae cuddfan bwrpasol, gyda mynediad i gadeiriau olwyn, yn eich galluogi i fynd yn agos at yr adar. Fe’ch cynghorir yn gryf i archebu lle gan mai dim ond unwaith y dydd mae’r adar yn cael eu bwydo.

Sut i gyrraedd: Mae Tafarn y Barcud Coch (y Cross Inn gynt), Llanddeusant 13km i'r gorllewin o Drecastell - trowch oddi ar yr A40 ger y Castle Coaching Inn yn Nhrecastell neu wedi’i arwyddo o'r A4069, Ffordd Brynaman i Lanymddyfri ym Mhont-ar-llechau.

Tref neu bentref agosaf: Llanddeusant.

Cyfeirnod Grid yr OS: Map Explorer OL12 neu Fap Landranger 160 - SN 771 265.

Pellter: Mae'r guddfan 175 metr oddi wrth Dafarn y Barcud Coch.

Cysylltwch â: Tafarn y Barcud Coch ar 01550 740617 neu ewch i wefan Red Kites Wales.

Cyfleusterau: Mae'r cyfleusterau agosaf yn Nhrecastell (tafarndai), Pontsenni (siopau a gorsafoedd petrol) neu Lanymddyfri.

Parcio: Mae rhywfaint o le parcio y tu allan i Dafarn y Barcud Coch.

Toiledau: Mae toiledau yn Nhafarn y Barcud Coch, er bod y toiledau gyda mynediad i’r anabl agosaf naill ai ym Mhontsenni, Brynaman neu Lanymddyfri.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf