Skip to main content

20 o ffyrdd i wneud eich ymweliad yn fwy gwyrdd

20 o ffyrdd i wneud eich ymweliad yn fwy gwyrdd

Mae ‘na lawer o ffyrdd i wneud eich ymweliad â’r Parc Cenedlaethol yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Dyma i chi ambell syniad cychwynnol.

1. Arhoswch yn hirach

Ffordd dda o leihau effeithiau niweidiol eich teithiau yw gwneud llai ohonynt, ac aros yn hirach yn lle. Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae ein tirluniau’n amrywiol, gyda llwythi o weithgareddau a golygfeydd i’w cynnig. Rydym ni’n siŵr y byddwch yn dod o hyd i ddigonedd i’ch ysbrydoli a byddem wrth ein boddau pe byddech yn aros yn hirach!

2. Arhoswch yn rhywle sy’n ecogyfeillgar

Mae mwy a mwy o westai, Gwely a Brecwast, lleoliadau hunanarlwyo a gwersylloedd o fewn ein Parc yn blaenoriaethu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd drwy fuddsoddi mewn systemau egni adnewyddadwy, drwy ddefnyddio cynhyrchion bioddiraddadwy a chefnogi busnesau lleol a chrefftwyr, yn ogystal â mesurau blaengar eraill. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’r adran ar lefydd gwyrdd i aros.

3. Mwynhewch fwyd wedi’i dyfu a’i gynhyrchu’n lleol

Mae gennym ffermydd, tyfwyr a chynhyrchwyr arbennig yn y Parc, a digonedd o delis, marchnadoedd, caffis, tafarndai a bwytai bendigedig gyda ffocws ar gynnyrch lleol, felly mae’n hawdd cadw eich bwyd dan reolaeth. Ewch amdani! Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adran ar fwyta ac yfed.

4. Byddwch yn gyfrifol yn yr awyr agored

Wrth gael hwyl yn y Parc, parchwch y lle arbennig yma os gwelwch yn dda. Cadwch eich ci dan reolaeth er mwyn cadw anifeiliaid eraill yn ddiogel. Cadwch at y llwybrau a’r traciau pan fo’n bosibl. Gofalwch nad ydych yn gadael sbwriel. Ac os gwelwch yn dda, peidiwch ag amharu ar na bwydo ein bywyd gwyllt, peidiwch â difrodi glannau’r afon na’r glaswelltiroedd na chasglu ein blodau a phlanhigion. Mae ‘na lwyth o gyngor da yn y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Dyfrffyrdd. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’r adran ar ddiogelwch ac ymarfer da. .

5. Rhowch eich ’sgidiau ’mlaen ac ewch am dro

Mae gan gerdded a heicio effaith amgylcheddol isel a manteision anferth. Mae modd teithio at lawer o’n llwybrau cerdded gorau ar fws. Rhowch eich ’sgidiau ’mlaen ac ewch i archwilio! I ddod o hyd i fwy, ymwelwch â’r adran ar gerdded.

6. Gadewch y car ar ôl

Mae’n werth bwrw golwg ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus cyn penderfynu teithio i’r Parc mewn car. Fe synnwch mor hawdd a chyfleus ydyw i gyrraedd yma ar fws, ar drên, neu gyfuniad o’r ddau. Ac unwaith rydych chi yma, mae’n hawdd cyrchu’r parc ar fws, beic, cwch neu ar droed. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ar gyrraedd yma neu deithio o amgylch y parc.

7. Cefnogwch eich Parc Cenedlaethol

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn sefydliad dielw sy’n ymroi at warchod yr amgylchedd naturiol a’r cymunedau sy’n ffynnu yn yr ardal arbennig yma. Eich cyfraniadau chi sy’n cynnal y Parc. Os oes gennych amser, gallwch ymuno â’n rhaglen wirfoddoli. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’n siop ar-lein neu galwch heibio canolfan wybodaeth y Parc Cenedlaethol.

8. Cwympwch mewn cariad gyda’n fflora a’n ffawna

Mae’r ystod eang o gynefinoedd yn ein Parc Cenedlaethol yn sicrhau bod ‘na lawer o rywogaethau diddorol i’w darganfod yma, o goed prin i ddyfrgwn annwyl. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ar wylio bywyd gwyllt, gwylio adar neu lwybrau cerdded. .

9. Dewch â binocwlars

Gallwn ni ddim sicrhau y byddwch chi’n dod yn agos at y bywyd gwyllt, felly bydd binocwlars yn hwyluso eich profiad. Hefyd, mae’n well o lawer archwilio planhigion drwy binocwlars na nesáu ar droed ac o bosib niweidio cynefin bregus yn y broses.

10. Ewch i forio ar gwch trydanol

Gallwch chi fordeithio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ar gwch dydd, tawel ecogyfeillgar neu gwch cul gyda Castle Narrowbotas (www.castlenarrowboats.co.uk) yng Ngilwern. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar deithio’n fwy gwyrdd.

11. Gwibiwch o gwmpas mewn car trydanol

Os hoffech deithio o amgylch y Parc mewn car, ystyriwch logi car trydanol tra rydych chi yma. Mae’r Rhwydwaith Teithio Eco (www.ecotravelnetwork.co.uk) yn llogi fflyd o gerbydau trydanol Renault Twizy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, trwy ddetholiad bychan o fusnesau twristiaeth yn ein Parc. Byddwch yn dod ar draws pwyntiau talu-wrth-fynd mewn atyniadau lleol, canolfannau gweithgaredd, lletyau a lleoedd bwyta ac yfed ar draws y Parc. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’r dudalen ar deithio’n fwy gwyrdd.

12. Gyrrwch yn ofalus

Gall gyrru gofalus gael effaith positif iawn ar eich effeithiolrwydd tanwydd. Os gwelwch yn dda, gyrrwch yn ddiogel a chofiwch y byddwch chi’n rhannu ein ffyrdd gyda beicwyr, cerddwyr a marchogwyr. Weithiau, mae anifeiliaid yn cael eu gyrru ar hyd ein heolydd gwledig. Ar dir comin agored, mae defaid, gwartheg a merlod mynyddig Cymreig yn aml yn pori ger y ffordd.

13. Ymwelwch mewn tymhorau gwahanol

Gall tyrfaoedd o ymwelwyr achosi pwysau ar unrhyw amgylchedd naturiol, felly beth am ymweld ar un o gyfnodau tawelach y flwyddyn? Mae’r haf yn amser bendigedig i fod ym Mannau Brycheiniog ond mae pob tymor yn dod â llawenydd a rhyfeddodau gwahanol. Darganfyddwch adar y gwanwyn, lliwiau godidog yr hydref ac awyr iach glân y gaeaf.

14. Dysgwch grefft draddodiadol

Cadwch ein treftadaeth yn fyw drwy ddysgu am adeiladu ecogyfeillgar traddodiadol ar Fferm Tŷ Mawr (www.lime.org.uk), sydd hefyd yn cynnig cyrsiau adeiladu cwrwgl. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Lyn Syfaddan. Neu, cysylltwch â Good Day Out (www.gooddayout.co.uk) yn Aberhonddu am fanylion ar gyrsiau gosod-gwrych, sesiynau crochenwaith a gweithgareddau eraill sy’n helpu i gefnogi bywyd gwyllt lleol, cadwraeth a phrosiectau treftadaeth. Neu, gallwch chi ymuno â gweithdy creadigol - am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’n tudalen ar ddigwyddiadau celf a chrefft.

15. Ymwelwch â melin wedi’i phweru gan ddŵr

Mae tref farchnad fechan Talgarth yn gartref i felin flawd hanesyddol sydd wedi’i hadnewyddu i weithio eto. Gallwch hefyd ddysgu sut i falu blawd a chreu bara yn y ffordd draddodiadol, neu fwynhau cinio o’r radd flaenaf. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen ar Felin Talgarth. .

16. Ewch ar eich beic

Mae modd cwmpasu llawer o dir ar ddwy olwyn, wrth bedalu’n hamddenol ar hyd llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu neu wibio ar hyd un o’n llwybrau beicio mynydd cyffrous. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adran ar feicio a beicio mynydd.

17. Ewch i nofio neu forio

Mae ein hafonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr yn lleoedd arbennig i deimlo’r gwynt ar eich wynebau neu lywio’ch ffordd drwy bŵer y cyhyrau. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adrannau ar ganŵio morio.

18. Syllwch ar y sêr

Diolch i ymdrech bendant y gymuned i arbed egni a lleihau pelydriad golau, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ei ddatgan yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Ar noson glir, edrychwch fyny, a mwynhewch. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adran ar syllu ar y sêr.

19. Ewch i ferlota

Mae marchogaeth a merlota ymhlith rhai o’r dulliau trafnidiaeth mwyaf pleserus heb gerbyd. Gallwch chi ddim curo’r rhyddid o archwilio’r bryniau agored ar gefn geffyl. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r tudalennau ar farchogaeth a merlota.

20. Ymlaciwch yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Bellach yn un o wyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru, nid yw’r Dyn Gwyrdd (www.greenman.net) wedi rhoi'r gorau i’w egwyddorion. Mae’n cael ei chynnal ym mis Awst ac mae’n un o’r gwyliau mwyaf annibynnol, sy’n anfasnachol ac yn ystyried yr amgylchedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Wyliau.

Dolenni defnyddiol

Canllaw Teithiwr Gwyrdd i Wyliau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog www.greentraveller.co.uk/sustainable-tourism-brecon-beacons

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf