Skip to main content

Cuddfan Adar Cronfa ddŵr Talybont

Cuddfan Adar Cronfa ddŵr Talybont

Ym mhen pellaf Cronfa Ddŵr Talybont mae cuddfan adar sy'n edrych dros ardal o Wlyptir a ddiogelir, sy’n gorlifo yn y gaeaf.

Gwybodaeth bellach:
Mae'r guddfan yn agos at y ffordd, ac mae llwybr llydan, gwastad yn arwain at y drws. Mae meinciau a lle ar gyfer un gadair olwyn.

Sut i gyrraedd: Mae'r gronfa ddŵr ychydig i'r de o bentref Talybont-ar-Wysg, sydd 8 km i'r de-ddwyrain o Aberhonddu. Mae'r guddfan ym mhen (deheuol) Torpantau y gronfa ddŵr.

Tref neu bentref agosaf:  Talybont-ar-Wysg

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160/161 SO 090 179.

Pellter:   10 metr.

Cysylltwch â: Dŵr Cymru ar 01495 769281

Cyfleusterau: Mae siop a Swyddfa’r Post gyda gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol a sawl tafarn yn Nhalybont-ar-Wysg.

Parcio: Mae llecyn bychan i barcio wrth geg y llwybr.

Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus sylfaenol ger y White Hart Inn yn Nhal-y-bont ar Wysg. Mae'r toiledau i’r anabl agosaf yn encilfa Llansanffraid ar yr A40

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf