Skip to main content

Castell ac Amgueddfa’r Fenn

Castell ac Amgueddfa’r Fenn

Yn y gorffennol roedd yr amgueddfa, sydd o fewn waliau’r castell, yn llety hela o'r 19eg ganrif. Ynddi mae llawer o eitemau ac arddangosfeydd o ddiddordeb hanesyddol o'r ardal gyfagos.

Gwybodaeth bellach:

Mae'r rhan fwyaf o'r amgueddfa yn hygyrch ond mae grisiau rhwng rhai lefelau. Mae llwybrau graean o gwmpas y tiroedd, ar un lefel yn bennaf er bod rhai llethrau serth. Mae tiroedd y Castell ar agor o 8am hyd fachlud haul. Mae mynediad am ddim.

Sut i gyrraedd: Mae'r Castell yn agos at faes parcio Stryd y Castell, sydd wedi’i arwyddo o'r gylchfan ar yr A4143 yn Y Fenni.

Tref neu bentref agosaf: Y Fenni

Cyfeirnod Grid OS:Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 300 138.

Cysylltwch â: Am fanylion ac amserau agor ffoniwch 01873 854282.

Cyfleusterau: Mae siop anrhegion yn y brif fynedfa.

Parcio: Mae maes parcio graean ar dir y castell a meysydd parcio ychwanegol gerllaw.

Toiledau: Mae toiledau rhwng dwy set o risiau yn yr amgueddfa, ac mae rhagor o doiledau gerllaw ym maes parcio Heol y Castell. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf