Skip to main content

Parc gwledig Craig-y-nos

Parc gwledig Craig-y-nos

Mae’r parc gwledig 40-erw hwn yn rhan o diroedd hanesyddol castell Fictoraidd Craig-y-nos ac fe'i rheolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn lle perffaith am ddiwrnod llawn hwyl a diogel i'r teulu cyfan. Ewch am dro hamddenol ar hyd y llwybrau hygyrch, heibio coed ffawydd anferth ac ar hyd glannau afonydd byrlymus.

Gwybodaeth bellach:

Mae arwyneb ar y mwyafrif o’r llwybrau i'r coetir, dolydd, llynnoedd a safleoedd picnic. Gall llwybrau’r dolydd fod yn feddal dan draed. Mae map cyffyrddadwy a bwrdd gwybodaeth ar ddechrau'r prif lwybrau.

Sut i gyrraedd: Mae'r parc gwledig ychydig oddi ar yr A4067 rhwng Ystradgynlais a Phontsenni.

Tref neu bentref agosaf:  Pen-y-cae.

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160 - SN 840 155.

Cysylltwch â: Parc Gwledig Craig-y-nos ar 01639 730395.

Cyfleusterau: Mae gwasanaeth bws o Aberhonddu ac Abertawe.

Parcio: Mae maes parcio mawr, gydag arwyneb o garreg gywasgedig, gyda mannau parcio i'r anabl, sydd ag arwyneb tarmac. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos gyda pharcio am ddim i ddeiliaid bathodyn parcio i’r anabl yn unig.

Toiledau: Mae’r prif doiledau a’r toiled i’r anabl gerllaw’r ganolfan ymwelwyr.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf