Skip to main content

Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol

Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol

Pryd i Ymweld â Ni

Canolfan Wybodaeth, Caffi y Fan, Siop Anrhegion a Chrefftau Platform One, Toiledau, Ar agor bob dydd:  10:00yb - 4:00yp

 

Ffôn: 01874 623366
Ebost: visitor.centre@bannau.wales 

Gwefan: www.breconbeacons.org

Siop Ar Lein: shop.beacons-npa.gov.uk

COFIWCH: Does yna’r un Sgwd o fewn cyrraedd cerdded i Ganolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol

 

Ein Canfod Ni

Mewn car

Mae’r Ganolfan Groeso tua 5 munud oddi ar yr A470 ym mhentref Libanus.   Pan fyddwch yn dod i mewn i’r pentref, edrychwch am arwydd brown Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol.   Y côd post agosaf yw LD3 8ER ond cofiwch ddilyn yr arwyddion wrth i chi agosáu.

Gwybodaeth Ymwelwyr Bannau Brycheiniog Cewch groeso cynnes bob amser yng Nghanolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol, sy’n cael ei galw’n lleol y Ganolfan Fynydd. Mae tîm o Swyddogion Gwybodaeth cyfeillgar a gwybodus wrth law trwy’r flwyddyn i’ch helpu chi i gael yr ymweliad gorau posibl â’ch Parc Cenedlaethol.

Caffi y Fan
Gallwch gadw’ch hun i fynd am y diwrnod yn yr caffi.  Mae bwydlenni brecwast, cinio a byrbrydau ar gael a hefyd arlwy wych o deisennau a phwdinau.  Mae’r Ystafelloedd Tê wedi’u trwyddedu a gallwch hefyd ymlacio gyda chwrw neu win lleol ar ôl diwrnod braf ar y bryniau.  Mae yno hefyd amrywiaeth lawn o de, coffi a diodydd meddal, heb eu hail i dorri syched ar ôl bod yn yr awyr iach.

Mae gan yr caffi hefyd deras awyr agored gyda golygfeydd ysblennydd o Ben y fan ac ehangder Canol y Bannau.

Siop Anrhegion a Chrefftau
Mae’n werth ymweld â'n siop.  Mae’n gwerthu’r holl fapiau a arweinlyfrau pwysig, yn ogystal â llawer o’r pethau eraill a fydd yn hwyluso eich ymweliad.   Rydyn ni hefyd yn falch o fod yn bartner gyda Chwmni Cydweithredol Crefftau, Platform One.   Mae’n gwerthu anrhegion, wedi’u gwneud â llaw, gan ddeuddeg o grefftwyr lleol, pob un yn gweithio yn ac o amgylch y Parc Cenedlaethol.  Bob diwrnod, bydd un o’r crefftwyr ar y safle, felly gallwch gyfarfod y bobl sy’n gwneud y pethau sy’n cael eu gwerthu.

Toiledau
Mae gan y Ganolfan Groeso doiledau dynion a merched, a hefyd ystafell benodol ar gyfer newid babanod, y tu fewn i’r Ganolfan Wybodaeth.  Mae toiledau i’r anabl ar flaen yr adeilad, ac yn haws eu cyrraedd.

Man Chwarae i Blant
Mae gennym ni fan chwarae yn yr awyr agored i blant gyda golygfa wych o Ben y Fan.   Mae’r man chwarae presennol ar gyfer plant 4-12 oed, ond mae yna gynlluniau i osod mwy o offer chwarae yn 2022 ar gyfer oedran ehangach o blant.   Cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn ystod yr haf.

Maes Parcio
Mae gan Ganolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol faes parcio talu ac arddangos.  Mae’r holl arian a gesglir yn y maes parcio yn cael ei ail fuddsoddi yn y ganolfan, gan ei helpu i oroesi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.   Diolch am eich cefnogaeth. .

 

Costau Parcio

1-2 awr £1.00

2-4 awr £2.00

Mwy na 4 awr £3.00

Mae parcio i’r anabl am ddim ac yn union y tu allan i fynedfa’r Ganolfan.

Yn ystod adegau prysur, byddwn yn agor cae ychwanegol ar gyfer parcio, bydd arwyddion yn dangos pan fydd ar agor.

Efallai y bydd ymwelwyr rheolaidd â diddordeb mewn tocynnau parcio blynyddol, gellir eu prynu o’n siop ar lein ar y cyfeiriad canlynol  https://shop.beacons-npa.gov.uk/product-category/car-park-permits/

 

Gwefru Ceir Trydan
Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn falch o fod â’r Man Gwefru Ceir Trydan cyntaf mewn lle gwledig.   Ar hyn o bryd, mae gennym ni bedwar pwnt gwefru, ar gael trwy’r Ap Pod Point.

 

Ble i Gerdded
Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ar ymyl Comin Mynydd Illtud, lle gwych i gerdded ar dir heb fod yn rhy anodd a chyda golygfeydd ysblennydd o Ganol y Bannau.   Ein taith gerdded fwyaf poblogaidd yw’r un i gopa Twyn y Gaer, lle mae bryngaer o Oes yr Haearn.   Oddi yma, cewch olygfa 360 gradd o Fannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon.  Mae manylion yma https://www.beacons-npa.gov.uk/wp-content/uploads/7.-Twyn-y-Gaer-FINAL-3.pdf

Bydd ein Swyddogion Gwybodaeth yn fwy na bodlon rhoi rhagor o fanylion i chi o’r daith gerdded hon a rhai eraill, dewch draw i’n gweld.

COFIWCH: Does yna’r un Sgwd o fewn cyrraedd cerdded i Ganolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol

 

Ar agor trwy’r flwyddyn ac eithrio Diwrnod Nadolig ac yn cau am 3pm ar Noswyl y Nadolig.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf