Skip to main content

Cwrt a Chastell Tre-tŵr

Cwrt a Chastell Tre-tŵr

Mae hwn yn dŵr crwn o ddechrau'r 13eg ganrif a thŷ canoloesol gyda gardd ganoloesol wedi’i hail-greu. Mae'r eiddo dan ofal CADW.

Gwybodaeth bellach:

Mae llawr gwaelod yr adeilad yn wastad ac mae coblau yn y cwrt a glaswellt cadarn yn yr ardd. Mae byrddau picnic ar y tir. Mae taith sain ar gael ar gyfer ymwelwyr.

Sut i gyrraedd: Mae Tre-tŵr ychydig oddi ar yr A479 a'r A40, 4 km i'r gogledd-orllewin o Grucywel. Mae'r arhosfan fws agosaf 600m i ffwrdd ar yr A40.

Tref neu bentref agosaf: Tre-tŵr

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 SO 185 213.

Cysylltwch â: Ffoniwch Lys a Chastell Tre-tŵr ar 01874 730279 am wybodaeth, hygyrchedd, amserau agor a phrisiau mynediad.

Cyfleusterau: Mae'r cyfleusterau agosaf yng Nghrucywel.

Parcio: Gellir parcio ceir ar ochr y ffordd yn agos at y fynedfa.

Toiledau: Mae toiledau, gan gynnwys toiled i’r anabl (Cynllun Allwedd Cenedlaethol RADAR) ar dir y castell.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf