Skip to main content

Ymweldâ Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ymweldâ Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol neu’r 'Ganolfan Fynydd' wedi ei lleoli 7km i'r de orllewin o Aberhonddu ac mae'n un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Saif y Ganolfan 1100 troedfedd (330m) uwchben lefel y môr ac mae’n cynnig golygfeydd trawiadol o fynyddoedd uchaf De Cymru - sef Pen y Fan a Chorn Du.

 people sittingoutside building

Trwy gydol y flwyddyn mae yna ddigwyddiadau ar gael, fel teithiau cerdded tywys a gweithgareddau plant - ar ein gwefan www.breconbeacons.org/events .

Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys yr ystafelloedd te poblogaidd sy’n gweini cynnyrch lleol a bwyd wedi'i goginio gartref, a chyfleusterau toiled i’r anabl. Y tu allan, gall teuluoedd a phlant fwynhau picnic ar yr ardal fawr o laswellt o flaen yr adeilad, neu chwarae gemau yno.

Mae'r tir comin cyfagos, Mynydd Illtud, yn cynnig digon o deithiau cerdded hawdd gyda golygfeydd gwych.  Dilynwch y dolenni hyn i gael manylion:
Tro hamddenol ar gomin Mynydd Illtud 

Ar gyfer beicio mynydd mae dau lwybr amlwg i ddewis o'u plith; mae’r llwybr hawdd o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr neu lwybr Mynydd Illtud, sy’n fwy heriol. Gallwch weld y ddau ohonynt ar ein tudalennau beicio mynydd people sat in pub
Gallwch logi beiciau'n lleol (Aberhonddu) a gallant hyd yn oed gael eu cludo i'r Ganolfan - gweler tudalennau Canllawiau a Llogi.

Amserlen Bosib
10:00 Cyrraedd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ac archwilio’r Ganolfan a'r tiroedd.
11.15 Lluniaeth yn yr ystafell de.

11:30 Mwynhewch daith gerdded neu ewch ar y llwybr beicio o Fynydd Illtud.
01:00 Dychwelyd i'r Ganolfan am ginio.
02:00 Mynd am adref neu fynd i Aberhonddu ar gyfer gweld y dref, neu fynd am dro ar hyd y gamlas neu ymweld â'r Eglwys Gadeiriol.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf