Skip to main content

Y Mynyddoedd Duon: Eglwysi a chapeli hynafol

Y Mynyddoedd Duon: Eglwysi a chapeli hynafol

Dechreuwch eich dydd yn Eglwys Merthyr Issui yn Partrishow. Lleoliad bendigedig ar lethrau de orllewin cadwyn y Gader gyda golygfeydd ysblennydd. Tu mewn, byddwch yn gweld sgrin dderw a chroglofft o’r 15fed ganrif ac ar fur gorllewinol corff yr eglwys, ceir llun o ‘Amser’ wedi’i beintio, sef ysgerbwd gyda phladur, awrwydr a rhaw.

Ewch yn ôl ac arhoswch yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig. Mae yna lwybr pren hygyrch, ac i’r sawl sy’n teimlo’n egnïol, mae llwybr serth yn arwain drwy’r coed i’r copa. Edrychwch am gnau cyll agored ar hyd y lle – arwydd sicr bod y pathewod preswyl ar waith.
Ar ôl cerdded, ewch ar hyd Dyffryn Ewias i Landdewi Nant Hodni. Mae’n bosibl cael pryd o fwyd yng Ngwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni, sy’n rhan o Briordy Awstinaidd gwreiddiol y 12fed ganrif.
Ar ôl cinio, beth am grwydro o amgylch adfeilion y Priordy ac eglwys Dewi Sant, sef man addoli ers 1500 o flynyddoedd.
Ewch ymlaen i fyny’r dyffryn i Gapel-y-Ffin - mae eglwys fechan y Santes Fair yma. Dywedwyd bod rhith o’r Santes Fair wedi ymddangos yn y caeau lle saif yr eglwys. Dywedodd Francis Kilvert, y dyddiadurwr enwog, ei fod yn ei atgoffa ef o dylluan; dywedir hefyd mai dyma oedd yr ysbrydoliaeth i enw ‘The Vision Farm’ yn nofel enwog Bruce Chatwin, 'On the Black Hill '. Yn fwy diweddar, bu’r arlunydd enwog Eric Gill yn byw ac yn gweithio yn y pentref, ac mae’r fynwent yn cynnwys dwy garreg fedd wedi’u hysgythru ganddo.
Ewch yn ôl i lawr y dyffryn ac mae’r eglwys olaf am y dydd ar y chwith. Dyma Eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou. Adeiladwyd yr eglwys ar ben drifft tirlithriad hynafol. Mae symudiad a setliad y ddaear wedi gwneud i’r adeilad oleddu i gyfeiriadau gwahanol. Mae mwy o oledd yn nhŵr yr eglwys na thŵr enwog Pisa!

Cyngor:Mae llawer o’r ffyrdd yn y Mynyddoedd Du yn rhai cul gyda mannau pasio; gallant fod yn hynod o rewllyd yn y gaeaf. Mae’r ffyrdd yn aml yn parhau’n rhewllyd am beth amser yn y mynyddoedd ar ôl i’r rhew doddi yn is yn y dyffrynnoedd. Mae’r signal ffôn yn wael os ar gael o gwbl. Mae arwyddion da ar gael, ond awgrymir eich bod yn mynd â map.

Taith Enghreifftiol

10.00  - 10.45 Ymweld ag Eglwys Partrishow.
10.45-12.15 Mynd am dro yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig.
12.15-13.45 Cael cinio yng Ngwesty Llanddewi Nant Hodni a chrwydro adfeilion y Priordy ac Eglwys Dewi Sant.
13.45-14.30 Gyrru i Gapel-y-Ffin ac ymweld ag eglwys fechan y Santes Fair.
15.30-15.45 Dychwelyd i lawr y dyffryn ac ymweld ag eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou

Ble mae ef?

Eglwys Patrishow
Gadewch Y Fenni ar yr A465 i gyfeiriad Henffordd. Gadewch yr A465 yn Llanfihangel Crucornau. Ar ôl 1.25 milltir, trowch i’r chwith tuag at Bwll Glo Fforest. Yn y gyffordd pum ffordd, dilynwch yr arwydd i Patrishow. Yn y gyffordd T nesaf (dim arwydd), trowch i’r dde. Mae’r eglwys ar y dde ar ôl tua milltir.
Gwarchodfa Natur Coed-y-Cerrig
Ewch yn ôl o Patrishow. Mae maes parcio bach y warchodfa natur ar y chwith ychydig ymhellach na’r gyffordd pum ffordd.
Priordy Llanddewi Nant Hodni
Troi i’r chwith wrth adael y warchodfa natur. Ar y gyffordd nesaf, troi i’r chwith a dilyn yr arwyddion am Landdewi Nant Hodni.Llanthony.
Capel-y-Ffin
Parhau i fyny’r cwm yn yr un cyfeiriad – mae Capel-y-Ffin bedair milltir yn nes ymlaen.
Cwm-iou
Dewch yn ôl lawr i’r cwm o Gapel-y-ffin. Mae'r arwydd at y pentref ar yr ochr chwith, oddi ar brif ffordd y dyffryn.

Cyfleusterau a Mynediad

Mae pob un o'r Eglwysi yn agored ond yn cynnig ychydig iawn o ran cyfleusterau. Maent yn cael eu cysylltu fel arfer drwy lwybrau anwastad, sy'n gallu bod yn llithrig mewn tywydd gwael.

Gwarchodfa natur Coed-y Cerrig
Mae taith gerdded wastad yn mynd â chi o amgylch y coetir gwlyb yn hygyrch i unigolion o bob gallu o ran symudedd, a darperir pwyntiau troi yn rheolaidd. Mae'r coetir sych yn wahanol iawn, gyda llwybr serth sy'n arwain drwy'r coed at y brig.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cynhyrchu taflen sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y warchodfa a hefyd yn cynnwys map sy'n dangos y teithiau cerdded. Mae hon ar gael fel arfer yn rhad ac am ddim o Ganolfan Gwybodaeth y Fenni.
Gwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni,
Llanddewi Nant Hodni NP7 7NN
www.llanthonyprioryhotel.co.uk
Ffôn: (01873) 890487
Oriau Agor
Ebrill, Mai, Medi, Hydref
Dydd Mawrth - Dydd Gwener 11.00 - 15.00 a 18.00-23.00
Dydd Sadwrn 11.00-23.00 Dydd Sul 12.00-22.30
Gorffennaf ac Awst
Dydd Llun - ddydd Sadwrn 11.00 - 23.00
Dydd Sul 12.00-22.30
Tachwedd-Mawrth
Dydd Gwener 18.00-23.00
Dydd Sadwrn 11.00-23.00 Dydd Sul 12.00-16.00
Mae'r bar mewn seler ac mae modd mynd ato drwy ddefnyddio grisiau cerrig. Mae'r bwyty a thoiledau ar y llawr gwaelod. I’r ymwelwyr hynny sy’n methu â defnyddio’r grisiau, gall rhywun fynd â’r diodydd atyn nhw.

Cludiant cyhoeddus

Ar y Trên: Yn y Fenni mae’r orsaf agosaf
Ar y Bws : Mae bws y Bannau yn rhedeg ar hyd dyffryn Llanddewi Nant Hodni ar y Sul a Gwyliau Banc o ddiwedd Mai hyd ddiwedd mis Medi (www.travelbreconbeacons.info)
Ar y Beic : Mae cwm Llanddewi Nant Hodni ar y llwybr Beicio Cenedlaethol, rhif 42 .

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf