Skip to main content

Blaenafon a Glanfa Goetre: profwch y gorffennol diwydiannol

Blaenafon a Glanfa Goetre: profwch y gorffennol diwydiannol

Mae llawer o ymwelwyr yn mwynhau'r profiad gwirioneddol gofiadwy yn Amgueddfa Lofaol Cymru, Big Pit - ond mae llawer mwy i’n gorffennol diwydiannol.

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer eich ymweliad. Mae'n rhoi trosolwg gwych o hanes y rhanbarth ac yn egluro pam gafodd tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ei ddyfarnu â statws Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae gan y ganolfan gaffi a chanolfan groeso, sy’n ddelfrydol ar gyfer coffi boreol; mae’r ganolfan ar gau ar ddydd Llun. Ar ôl coffi anelwch drwyn y car tuag at Waith Haearn Blaenafon - siwrne fer - lle ceir olion sylweddol pum ffwrnais chwyth gynnar, tai a gastiwyd a thŵr cydbwysedd dŵr godidog. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fythynnod y gweithwyr haearn a chanolfan gwybodaeth - lleoliad ffilmio'r gyfres deledu boblogaidd gan y BBC, sef Coalhouse. Ac yn goron ar y cyfan, mae mynediad i'r ddau o’r atyniadau yma’n hollol rad ac am ddim.Iron works blaenavon

Yn dibynnu ar y tymor a'r tywydd - gallwch naill ai ddychwelyd i Ganolfan Treftadaeth y Byd am ginio neu dilynwch y B4246 yn ôl tuag at y Fenni dros y Blorens a stopio yn y Keepers Pond am bicnic. Fe'i gelwir hefyd yn y Pwll Pen-ffordd-goch (Forge Pond) am iddo gael ei adeiladu ar ddechrau'r 19eg ganrif i ddarparu dŵr ar gyfer yr Efail. Pan gafodd yr efail ei ddymchwel yn 1860 daeth yn fan prydferth lleol yn fuan, a hynny am reswm da - mae'r golygfeydd yn syfrdanol. Mae hefyd yn fan cychwyn da ar gyfer taith gerdded ar Fynydd Blorens - delfrydol ar gyfer cerdded cŵn a hedfan barcut.

Ar ôl cinio - gorffennwch eich addysg ddiwydiannol gydag ymweliad â Glanfa Goetre ar gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, sy’n safle treftadaeth diwydiannol 200 mlwydd oed, a bellach yn gartref i gaffi Eidalaidd a chanolfan ymwelwyr. Os ydy taith gerdded Blorens ychydig yn rhy heriol, gallwch hefyd fwynhau taith gerdded fach ar hyd llwybr y gamlas.

Amserlen Bosib

10.00-11.30 Mwynhewch ymweliad â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a choffi boreol.
11.30-12.45 Ymweld â Gwaith Haearn Blaenafon, canolfan wybodaeth a bythynnod y gweithwyr.
12.45-14.00 Cinio naill ai yng nghaffi Canolfan Treftadaeth y Byd neu bicnic a cherdded i fyny i Pwll Pen-ffordd-goch.
14.30-16.00 Gyrrwch i ganolfan ymwelwyr Glanfa Goetre, ewch am dro ar hyd y gamlas a mwynhau te prynhawn a chacennau yng Nghaffi’r Gamlas.

Ble mae e?

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon: Gallwch ddod o hyd iddo ar Heol yr Eglwys,
(or NP4 9AE for some sat -navs)
Ffôn: 01495 742333

Gwaith Haearn Blaenafon - gallwch ddod o hyd iddo ar Heol y Gogledd, Blaenafon NP4 9RN Ffôn: 01495 792615

Glanfa Goetre
Blaenafon NP4 9AS (neu NP4 9AE i rai sat navs)
Caffi’r Gamlas a Chanolfan Wybodaeth - NP7 6EW Ffôn (01873 881069)

Mae arwyddion i’r ganolfan ymwelwyr oddi ar yr A4042 rhwng Mamhilad a Llanofer.

Cyfleusterau a Mynediad

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Oriau agor

9.00-17.00 Dydd Mawrth - Sul Ebrill i fis Medi

9.00-16.00 Dydd Mawrth - Sadwrn mis Hydref i fis Mawrth.

Mae'r caffi ar agor pan fydd y Ganolfan ar agor.

Mae parcio ar gael ac mae gan y ganolfan fynediad llawn i'r anabl. Mae mynediad am ddim.

Gwaith Haearn Blaenafon

Oriau agor:
31/3 - 31/10 - Llun - Sul 10.00-17.00
1/11 - 31/3 Llun - ar gau Dydd Iau. Gwener - Sadwrn 9.30-16.00, Dydd Sul 11.00-16.00
Mae gan y bythynnod, sy’n gartref i'r arddangosfeydd, loriau gwastad, ond tu allan mae’r llwybrau yn arw a'r tir yn anwastad. Mae Parcio i'r Anabl yn cael ei ganiatáu ar y safle ac mae cyfleusterau tai bach, gyda mynediad ramp. Mae croeso i gŵn ar y safle ond rhaid eu cadw ar dennyn.

Pwll Pen-ffordd-goch
Ar agor drwy’r amser. Mae yna faes parcio, ond mae gan yr ardal dir anwastad sy'n atal mynediad i bobl anabl. Fel llecyn hardd, mae ar agor i’w fwynhau drwy’r amser.

Glanfa Goetre
Caffi’r Gamlas a’r Ganolfan Wybodaeth.

Oriau agor

Mercher i Sul 9.00-17.00.

Iau - Sadwrn mae ar agor hefyd o 18.00-23.00.
Mae'r caffi a'r ganolfan wybodaeth ar y llawr gwaelod ac yn cynnwys cyfleusterau llawn i'r anabl.

Mae maes parcio mawr yn agos at y ganolfan. Mae'r llwybr i lawr i'r ganolfan ar lethr.

Cludiant cyhoeddus

By Train: Ar y Trên: yr orsaf agosaf yw Pont-y-pŵl.
Ar y Bws: : Mae'r gwasanaeth X3 yn gweithredu rhwng Y Fenni a Phont-y-pŵl. Mae'r gwasanaethau X24 a X30 yn gweithredu rhwng Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Mae'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu gan Stagecoach (0871 200 2233)

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf