Skip to main content

Gwaith Haearn Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon

Am gipolwg diddorol ar fywyd y gweithwyr yn ystod blynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol, beth am ymweld â Gwaith Haearn Blaenafon?

Mae'r safle yn gartref i un o'r gweithfeydd haearn o'r 18fed ganrif sydd wedi ei gadw orau yn Ewrop ac yn dod gyda ffwrneisi, tai cast, tŵr cydbwysedd dŵr godidog, ffwrnais grom a bythynnod y gweithwyr haearn.

Yn dilyn y gyfres BBC Wales 'Coal House', mae modd i ymwelwyr gamu i mewn i fythynnod y gweithwyr, sydd wedi'u dodrefnu yn Stack Square ac ymweld â 'Siop y Cwmni' sydd wedi ei hail-greu fel y byddai wedi edrych yn 1840.

Yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, cewch ddysgu am Safleoedd Treftadaeth y Byd a pham daeth tirwedd mynydd Cymreig yn un.

Amserlen Bosib
10:00 Cyrraedd y Gwaith Haearn.
10:15 Mynd o gwmpas y Gwaith Haearn, y Bythynnod a’r Arddangosfa.
11:45 Ymweld â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.
12:30 Mwynhewch ginio yn y Ganolfan Treftadaeth, tafarn leol neu gael picnic.
01:30 Mynd am adref neu ymweld ag Amgueddfa Lofaol Big Pit (Amserlen Rhif 11) neu archwilio tref Blaenafon ymhellach, neu Amgueddfa Cordell, Pwll Pen-ffordd-goch ac ati.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf