Skip to main content

Ymlachiwch ger Llyn Syfaddan a’r eglwysi heddychlon ger Talgarth

Ymlachiwch ger Llyn Syfaddan a’r eglwysi heddychlon ger Talgarth

Howell Harris Cyrhaeddwch y maes parcio ar yr ochr ogleddol o Lyn Llan-gors - y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru, wedi ei leoli yn y mynyddoedd. Cafodd ei greu gan rewlifoedd o oes yr iâ dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Dechreuwch eich taith gerdded drwy ymweld â Chanolfan Crannog Cymru. Mae Crannog yn fath o annedd llyn hynafol a adeiladwyd allan ar y dŵr fel trigfan amddiffynnol. Yr un yn Llan-gors yw'r unig un yng Nghymru a chredir ei fod wedi bod yn gartref i deulu brenhinol Brycheiniog yn y 10fed Ganrif. Gallwch ei weld o’r tŷ crwn hanesyddol a gafodd ei ail-adeiladu, sydd hefyd yn gweithredu fel canolfan ddehongli. Gallwch hyd yn oed briodi yno os ydych chi eisiau!

Feeding ducks at Llangors Lake

Ar ôl cinio, ewch yn ôl i Dalgarth, a chael saib yn Nhrefeca er mwyn ymweld â’r amgueddfa yng Ngholeg Trefeca, cartref Howell Harri, arweinydd y diwygiad Methodistaidd Cymreig ar ddechrau'r 18fed canrif. Gorffennwch y prynhawn drwy ymweld ag Eglwys Sant Gwendolen yn Nhalgarth. Mae'r Eglwys hanesyddol yn dyddio'n ôl mewn mannau i'r drydedd ganrif ar ddeg ac yn enwog fel yr Eglwys lle cafodd Howell Harris ei dröedigaeth a'i gladdu yn y pen draw. Os ydych chi’n lwcus, efallai y clywch chi’r gloch - gan fod y chwe chloch yn gallu cyrraedd hyd at 38 trawiad.

Amserlen Bosib

10.00-10.30 Ewch i ganolfan Dehongli Crannog Cymru.
10.00-10.30 Ewch i ganolfan Dehongli Crannog Cymru.
12.30-2.00 Mwynhewch ginio yn y llyn neu yn un o dafarnau Llan-gors.
2.00-3.00 Stopiwch yng Ngholeg Trefeca ac ymweld â'r amgueddfa er cof am Howell Harris.
3.00-4.00 Dychwelwch i'r prif faes parcio yn Nhalgarth a cherdded i fyny i Eglwys Sant Gwendolen.

Ble mae e?

Mae modd cyrraedd maes parcio Llyn Syfaddan, LD3 7TR trwy droi i'r dde oddi ar y B4560 o Dalgarth i Syfaddan yng nghanol y pentref, ar y ffordd fechan i Lanfihangel Tal-y-llyn. Gwelwch arwydd Llyn Syfaddan ar yr ochr chwith tua 200 metr ar ôl y troad. Coleg Trefeca, Trefeca, 0PP LD3 Aberhonddu
www.trefeca.org.uk Ffôn: 01874 711423
Mae Coleg Trefeca ym mhentref Trefeca ar y B4560 rhwng Llan-gors a Thalgarth. Mae Eglwys Sant Gwendolen yng nghanol Talgarth ac mae’n cael ei chadw dan glo. Mae’r allwedd i’r eglwys yn cael ei chadw yn y Ganolfan Wybodaeth, mae modd ei chasglu a'i dychwelyd yno. Mae’r eglwys yn daith fer ar droed o'r Ganolfan Wybodaeth a bydd cyfarwyddiadau yn cael eu darparu.
Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Talgarth, Y Sgwâr, Talgarth, Powys LD3 0BW www.talgarthcentre.org.uk Ffôn: 01874 712 226 Gallwch ddod o hyd i’r Ganolfan drwy adael y maes parcio i gyfeiriad canol y dref ac mae ar yr ochr chwith ar ôl croesi pont yr afon.

Oriau Agor.

Haf - Dydd Llun i Ddydd Sadwrn - 10:00-4:00.
Dydd Sul 10:00 - 4:00
Dydd Sul 10:00 - 1:00
Gaeaf - Dydd Llun i Ddydd Sadwrn
- 10:30-3:30.
Dydd Sul 10.30am - 1.00

Llyn Syfaddan

Rhif Ffôn 01874 658226
Noder bod Llyn Llan-gors yn dueddol o orlifo ar adegau o law trwm ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd cyrraedd Canolfan Crannog a’r llwybr ger y llyn. Mae toiledau cyhoeddus ar ochr chwith maes parcio Llyn Syfaddan. Mae yna doiled i'r anabl, ac mae modd cael mynediad iddo drwy allwedd radar. Mae caffi Llyn Syfaddan caffi ar agor 1 Ebrill - 1af o Dachwedd, Dydd Mawrth - Dydd Sul 09:00-6:00. 07967 285019- 1st November Tuesday  - Sunday 9am-6pm. 07967 285019

Canolfan Crannog Llyn Syfaddan

Oriau agor
19/3/11 - 31/10/11 - 9.30am - 4.00 o ddydd Llun i Ddydd Sul. Nid oes tâl mynediad. Os ydych yn dymuno ymweld y tu allan i'r tymor - ffoniwch ymlaen llaw a bydd y perchnogion yn falch o wneud trefniadau i'w agor i chi . 01874 658226. Gallwch gyrraedd Canolfan Crannog ar hyd llwybr gwastad sydd fel arfer yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn - fodd bynnag, gall fod yn fwdlyd iawn dan draed ar adegau o law trwm. Mae yna siop fechan, bar a chychod i'w llogi yn ystod tymor yr haf.

Llwybr Lakeside

Mae Llwybr Lakeside yn wastad, a does dim camfeydd yno. Mae'n cael ei farcio gan byst gwyrdd ac mae byrddau gwybodaeth yn cael eu darparu mewn mannau ar hyd y ffordd. Glaswellt a phridd sydd ar lawr yn bennaf felly nid yw’n addas i gadair olwyn..

Eglwys Llangasty a Chuddfan Adar Llangasty

Map Landranger 161 OS 126,263 Mae Llangasty ychydig oddi ar y ffordd gefn rhwng Pennorth a'r Bwlch, ar ochr ddeheuol Llyn Llan-gors. Mae maes parcio bach llwch cerrig ger Eglwys Llangasty. Mae’r guddfan adar, sydd â meinciau a chanllawiau adar adeiledig yn cael ei gynllunio i ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'n 700m o eglwys Llangasty - taith gerdded hamddenol lefel sy'n mynd drwy 3 giatiau mochyn cul . Os nad ydych yn gallu cerdded mor bell neu yn defnyddio cadair olwyn mae llwybr sy'n caniatáu ceir i ddod yn agosach at y guddfan adar. Os ydych am ddefnyddio'r llwybr hwn, cysylltwch â'r gwasanaeth warden parc cenedlaethol am fwy o fanylion. Nid yw'r daith yn addas ar gyfer eu defnyddio yn ystod cyfnodau gwlyb o'r flwyddyn.

Coleg Trefeca

Mae Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddi lleygwyr prysur ac yn achlysurol ni fydd modd cael mynediad i’r amgueddfa. Mae croeso i chi ffonio ymlaen llaw i wirio - 01874 711423. Mae’r amgueddfa ar agor fel arfer o ddydd Llun i ddydd Sul 10-4.

Eglwys Sant Gwendolen

Saif yr eglwys ar fryn serth, byr. Mae modd gollwng teithwyr yn syth tu allan i'r eglwys os bydd angen ac fel arfer mae yna fan parcio weddol agos. Er bod y modd cael mynediad drwy giât mochyn - mae yna brif giât hefyd, y gellir ei hagor i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn a bygis. Yr orsaf drên agosaf yw’r Fenni - mae Talgarth ryw 18 milltir o'r Fenni.

Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu.

Ewch i www.traveline-cymru.org.uk am yr wybodaeth teithio a’r amserlenni diweddaraf.

Yn ystod misoedd yr haf mae gwasanaeth Bws y Bannau hefyd yn mynd drwy Dalgarth ar y Sul a Dydd Llun gŵyl y banc o ddiwedd Mai tan ddechrau mis Hydref. Ar feic : Mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd drwy Dalgarth.

Mae holl ddarluniau Howel Harris yn eiddo i Nanette Hepburn, drwy garedigrwydd Coleg Trefeca.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf