Skip to main content

Gwarchodfa Natur Pwll-y-wrach, Melin Talgarth a Chastell Bronllys

Gwarchodfa Natur Pwll-y-wrach, Melin Talgarth a Chastell Bronllys

Dechreuwch eich bore gyda thaith o amgylch y Warchodfa Natur hardd, Pwll-y-wrach. Mae’n gorwedd mewn dyffryn ag ochrau cul a serth, ac mae’r warchodfa yn goetir derw-ynn. Ym mhen dwyreiniol y warchodfa, mae’r afon Enig yn plymio i greu rhaeadr ysblennydd i mewn i gronfa dywyll a elwir yn ‘Bwll y Gwrachod’, a dyna ydy tarddiad enw’r warchodfa. Er mor hardd ydy’r Warchodfa drwy gydol y flwyddyn gyfan, efallai ei bod hi ar ei gorau yn y gwanwyn pan fydd clychau’r gog yn garped ar lawr y goedwig. Mae llwybr mynediad llyfn yn arwain o'r prif faes parcio i mewn i'r warchodfa - ond mae llwybr mwy anwastad, a mwdlyd weithiau, yn arwain i fyny at y rhaeadr. Dychwelwch i Dalgarth a pharcio yn y prif faes parcio. Cerddwch tuag at ganol y dref a stopio yn y Tŷ Tŵr (Tower House) o’r 13eg ganrif. Er bod ei ddefnydd gwreiddiol yn aneglur credir mai ei fwriad oedd amddiffyn croesiad yr afon Enig a'r dref. Yn y cyfnod diweddarach, defnyddiwyd y tŵr fel canolfan i gasglu rhenti a degwm gan stad Ashburnham. Mae bellach yn gartref i Ganolfan Wybodaeth ac Adnoddau Talgarth - ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, sy’n gallu ateb eich cwestiynau am yr ardal leol.

Ym mis Gorffennaf 2011, cafodd Melin Talgarth ei hadfer, a’i hagor i’r cyhoedd. Mae'r dref yn enillwyr diweddar o'r gystadleuaeth Loteri Fawr SOS Village y BBC, ac fe enillon nhw arian i adfer y felin ddŵr. Mae’r Felin Ddŵr hefyd yn cynnwys caffi ar lan yr afon, ac yn cynnig cynnyrch ffres wedi’u pobi, ac yn gwerthu cynnyrch a rhoddion lleol.

Ar ôl cinio, cewch fwynhau taith gerdded ar y llwybrau hygyrch sydd newydd eu hadfer ar lan yr afon. Ar gyfer y rhai sydd am ymestyn eu coesau ymhellach beth am fynd ar daith gerdded fwy sionc i Gastell Bronllys? Mae erbyn hyn yng ngofal Cadw, ac mae yna olygfeydd godidog yno, yn edrych dros yr afon Llynfi a Thalgarth. Mae dogfennau hanesyddol yn dweud wrthym fod hanes wedi ei newid yma pan syrthiodd darn mawr o waith maen oddi ar y castell, gan ladd etifedd gwrywaidd olaf Miles o Gaerloyw.

Amserlen Bosib

11.00-12.30 Dewch i fwynhau taith gerdded yng Ngwarchodfa natur Pwll- y- Wrach.
12.30-13.00 Dychwelyd i Dalgarth ac ymweld â'r Ganolfan Gwybodaeth ac Adnoddau a leolir yn y Tŵr hanesyddol.
13.00-14.00 Cinio yn Nhalgarth ac yna ymweld â'r felin ddŵr.
14.00-15.30 Ar ôl ymweld â'r felin ddŵr dyrys, ceisiwch gerdded i Gastell Bronllys a mwynhau’r golygfeydd gwych.

 

Ble mae e?

Map
Map
Cyfeirnod Grid SO165 326
O'r gyffordd yng nghanol Talgarth gyda'r Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr ar y dde, trowch i'r dde. Croeswch yr afon ac yna dilynwch y troad chwith sydyn sy'n arwain i mewn i Stryd Bell. Ar ôl 20 metr, trowch i'r chwith gyferbyn â gwesty’r Bell a dilynwch yr isffordd am un filltir a hanner.
Dafliad carreg o’r tai olaf yn Nhalgarth, fe welwch y maes parcio bychan ar yr ochr dde.
Gwelir Tŷ Twr, a Chanolfan Wybodaeth ac Adnoddau Talgarth wrth adael y maes parcio i gyfeiriad canol y dref, ac maent ar yr ochr chwith ar ôl croesi pont yr afon.

Oriau agor

Haf - Dydd Llun-Dydd Sadwrn
10.00am-4.00pm.
Dydd Sul 10:00-1:00.
Gaeaf - Dydd Llun i Ddydd Sadwrn
Dydd Sul 10:30-1:00.
10.30am-1.00pm.
Mae’r Ganolfan adnoddau ar y llawr gwaelod.
www.talgarthcentre.org.uk
Castell Bronllys OS 149,347 ar y llaw dde ar yr A479 rhwng Talgarth a Bronllys.
Ceir llefydd parcio yn y gilfan yn ymyl y Castell.

Cyfleusterau a Mynediad

Mae Gwarchodfa natur Pwll-y-Wrach yn agored i bawb, at ddibenion mwynhad tawel. Mae croeso i gŵn, ond dylid eu cadw dan reolaeth dynn.
Mae llwybr mynediad llyfn yn arwain o'r maes parcio i ganol y warchodfa. Oddi yno mae’r llwybrau yn fwy anwastad, ac weithiau yn fwdlyd, wrth fynd tuag at y rhaeadr.
Does dim cyfleusterau yn y warchodfa ond mae toiledau cyhoeddus
yng nghanol Talgarth gyferbyn â'r archfarchnad fechan.
The Bakers Table a siop Talgarth Mill, Y Felin, Sgwâr Talgarth LD3 0BW
01874 711352
www.talgarthmill.com
Ar agor o ddydd Llun-Sadwrn 10-4.
Does dim staff yng Nghastell Bronllys ond mae ar agor i'r cyhoedd heb dâl mynediad. Ar agor yn ddyddiol
o 10-4.
Mae’r Castell yn gofadail hanesyddol CADW gydag arwynebau anwastad a grisiau.
Nid oes cyfleusterau yn y Castell.

Cludiant cyhoeddus

Mae’r orsaf drenau agosaf yn Y Fenni. Mae Talgarth tua 18 milltir o’r Fenni.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Ewch i www.traveline-cymru.org.uk am y wybodaeth teithio ac amserlenni diweddaraf.
Ar gyfer amserlen bws Henffordd i Aberhonddu (trwy Dalgarth), chwiliwch am wasanaeth 39 ar wefan Cyngor Swydd Henffordd (39a ar gyfer yr amserlen Dydd Sul).
Yn ystod misoedd yr haf mae gwasanaeth Bws y Bannau hefyd yn mynd trwy Dalgarth ar Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc o ddiwedd Mai i ddechrau mis Hydref.

Ar feic: Mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd trwy Dalgarth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf