Skip to main content

EWCH O GWMPAS PWLL GLO YN BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU, BLAENAFON

EWCH O GWMPAS PWLL GLO YN BIG PIT AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU, BLAENAFON

Mwynhewch ddiwrnod cyffrous allan yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, sydd wedi ei leoli o fewn Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon ac mae'n rhan o'r hen Lofa Big Pit.

Profwch y daith fyd-enwog sy'n mynd â chi 300 troedfedd o dan y ddaear gyda glöwr go iawn i weld sut brofiad oedd i'r miloedd o ddynion a oedd yn gweithio ar y ffas lo. Ar yr wyneb, gallwch ymweld ag adeiladau'r lofa wreiddiol gan gynnwys Tŷ’r Fan, yr Efail, y Stablau a’r Tŷ Injan droellog. Mae Baddonau Pen Pwll hefyd wedi cael eu hadfer i ddangos lle y dechreuodd y glowyr eu shifftiau, a lle ddaethon nhw i ben. Gallwch hefyd ymweld â'r arddangosfa cloddio draddodiadol yn yr adeilad lle mae’r Baddonau a mynd ar daith rithiol trwy fwynglawdd modern.

 

Amserlen bosib
10:15 Cyrraedd yr amgueddfa.
10.30 - 11.00am Taith dywys danddaearol o amgylch y pwll.
12:15 Cinio.
13:00 Archwiliwch arddangosfeydd yr amgueddfa a’r adeiladau pwll glo gwreiddiol.
14:00 Taith rithiol i brofi’r mwynglawdd modern.
2.30 pm Depart for home or visit Blaenavon Ironworks (Itinerary No.8).

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf