Skip to main content

Y Mynyddoedd Duon: Comin Rhos Fach a Chastell Crucywel

Y Mynyddoedd Duon: Comin Rhos Fach a Chastell Crucywel

Gyrrwch hyd at Gomin Rhos fach, sydd wedi ei guddio o dan fynydd Y Das - lle gallwch ddechrau'r diwrnod gyda thaith gerdded a mwynhau golygfeydd godidog o’r Mynyddoedd Du. Gadewch eich car yn y lle parcio a cherdded yn ôl i lawr y rhiw i Eglwys Llaneleu, sy’n ymroddedig i Santes Elliw. Erbyn hyn, mae’r adeilad rhestredig gradd 1 o’r 13eg ganrif wedi cael ei digysegru, ac mae wedi ei gosod o fewn mynwent gaerog, hirgrwn a godwyd yn oes y Celtiaid. Mae erbyn hyn o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.

Inside Tretower Court

Yn syth y tu allan i'r gât uchaf yn y fynwent i'r de mae’r ‘Goeden chwipio’ enwog - coeden ywen hynafol, a modd dod o hyd iddi ar hyd y ffordd sy'n arwain yn ôl i fyny i Gomin Rhos Fach. Chwiliwch am y tyllau lle gafodd dwylo’r dihirod eu clymu, fel cosb!

Os ydy’r tywydd yn ffafriol, gallwch fwynhau picnic i ginio neu ddychwelyd i Dalgarth am ginio yn un o'r tafarnau neu gaffis.

 

Ar ôl cinio ewch tuag at Grucywel. Sefydlwyd y Castell Tomen a Beili Castell yn ystod concwest Normanaidd ym Mrycheiniog, tra bod y tŷ cwrt cyfagos a’i wreiddiau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y Fychaniaid a oedd yn byw yno, yn deulu Cymreig cyfoethog dylanwadol, ac fe wnaethon nhw greu llys i greu argraff. Fodd bynnag pan wnaethon nhw adael yn y 18fed ganrif , fe wnaeth yr ŵyn a’r gwyddau symud i mewn! Mae wedi ei adfer yn llawn erbyn hyn, ac mae Cadw wedi creu cyfres o ystafelloedd i ddangos fel yr oedden nhw yn 1470 pan oedd Tre'r Tŵr yn rhan uchel o gymdeithas - profwch fywyd 15fed ganrif ar ei orau.

 

Amserlen Bosib

10.30-12.30 Mwynhewch daith gerdded bleserus ar Gomin Rhos Fach ac yna ymweld ag Eglwys Llaneleu - a gweld os allwch ddod o hyd i'r Goeden Chwipio.
12.30-13.30 Mwynhewch bicnic neu ginio yn un o dafarndai neu gaffis Talgarth.
14.00-16.00 Cyrraedd Llys a Chastell Tre-tŵr a threulio'r prynhawn yn mynd o gwmpas y Llys a’r castell canoloesol trawiadol, a gafodd ei adfer yn ddiweddar.

Ble mae e?

Dewch o hyd i Gomin Rhos Fach ac Eglwys Llaneleu (OS 18,503,418) drwy adael canol dref Talgarth ar y ffordd sy'n pasio tŵr y gwesty. Cadwch i'r chwith pan fydd ffordd yn rhannu. Wrth gyrraedd y gyffordd â'r eglwys o'ch blaen, trowch i'r dde a gyrru i fyny at Gomin Rhos Fach lle gwelwch chi ddigon o lefydd parcio. Mae'r ffordd yn gul gyda digon o lefydd pasio.
Llys a Chastell Tre-tŵr NP8 1RD www.cadw.wales.gov.uk
Ffôn: 01874 730279
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 1 Ebrill - 31 Hydref 10:00-5:00.
1af Tachwedd - 31 Mawrth Ar gau bob dydd Llun.
www.cadw.wales.gov.uk tel: 01874 730279 open 7 days a week from april 1st to october 31st 10am-5pm.
Gwener / Sadwrn ar agor 10-4, Dydd Sul 11-4.
Mae arwyddion i bentref Tre-tŵr oddi ar yr A479, 10 milltir i'r de-ddwyrain o Dalgarth. Ceir mynediad at y castell drwy gae â gât wiail. Mae yna baneli gwybodaeth. Darperir meinciau. Mae’r maes parcio gyferbyn â'r gofeb a than wair. Mae’r toiledau ar y safle yn cynnwys toiled allwedd radar. Mae yna ramp ond rhaid cyrraedd y toiledau drwy fynd drwy'r tŷ a thros borfa. Efallai gall y ceidwad drefnu mynediad amgen. Mae gan lawr gwaelod Llys Tre-tŵr, y gerddi a’r tir, fynediad gwastad. Mae’r llwybrau allanol yn gadarn er mai porfa ydy’r rhan fwyaf. Llawr coblau sydd i’r iard.
Cost mynediad ar gyfer oedolion yw £3.60 a £2.60 ar y gyfradd is. Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i'r safle yn rhad ac am ddim. Mae siop anrhegion ar y safle. Mae yna gaffi yng Nghwmdu ar yr A479 wrth ddychwelyd i Dalgarth.
Eglwys Llaneleu - nid oes cyfleusterau yn yr eglwys. Dylai'r allwedd i'r eglwys gael ei chasglu o a'i dychwelyd at yr heulfan gwyn (trwy gât wen) yn y Crochendy ar waelod Llys Llaneleu. Mae’r daith gerdded o'r tir comin, ac yn y fynwent, ar lethr ac efallai na fydd yn wastad dan draed.
Ar y Trên - Yn y Fenni mae’r orsaf agosaf. Mae Talgarth ryw 18 milltir o'r Fenni ar droed. Nid yw Llaneleu ar unrhyw lwybrau trafnidiaeth - ond mae taith gerdded o amgylch yr eglwys yn fanwl yn y llyfryn ‘Walks around Talgarth’, ac yn chwe milltir o hyd.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu'n dda gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.uk am yr wybodaeth teithio ac amserlenni diweddaraf. Ar gyfer amserlen bysiau Henffordd i Aberhonddu (trwy Dalgarth), chwiliwch am wasanaeth 39 ar wefan Cyngor Sir Swydd Henffordd (39a ar amserlen Dydd Sul). Yn ystod misoedd yr haf mae gwasanaeth Bws y Bannau hefyd yn mynd trwy Dalgarth ar y Suliau a Gwyliau Banc o ddiwedd mis Mai i ddechrau mis Hydref. Ewch i www.travelbreconbeacons.info am fwy o fanylion.
Mae Llys a Chastell Tre-tŵr ar lwybr X43 o'r Fenni i Aberhonddu (safle bws agosaf: troad Gliffaes) ac mae Bws y Bannau hefyd yn stopio yno yn yr haf.
Ar feic: mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn pasio o fewn 5 milltir i Dre-tŵr.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf