Skip to main content

Treuliwch ddiwrnod ger Llyn Syfaddan ac yn Aberhonddu

Treuliwch ddiwrnod ger Llyn Syfaddan ac yn Aberhonddu

Llyn Syfaddan yw'r llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru, a grëwyd gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf.

Mae'r llyn yn cael ei fwydo gan ddŵr sy'n rhedeg oddi ar y bryniau cyfagos ac yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Mae'r llyn hefyd yn gartref i ynys artiffisial o’r 9fed ganrif, a elwir yn Crannog, sydd â chanolfan ymwelwyr bach ar ffurf tŷ crwn, to gwellt.

Mae'r comin glaswelltog wrth ochr Llyn Syfaddan yn llecyn picnic poblogaidd ac yn cael ei bori gan geffylau, defaid a gwartheg o bryd i’w gilydd. Dyma'r lle delfrydol i chwarae o gwmpas mewn cychod, mynd am dro hamddenol neu wylio adar. Mwynhewch Lwybr y Llyn sy'n rhedeg o ben gorllewinol y llyn i Eglwys Llangasty. Mae'r llwybr yn reit wastad, heb gamfeydd, ac mae yna farciau ffordd a byrddau gwybodaeth ar wahanol rannau. Ar gyfer y rhai sy'n dymuno mynd ar y dŵr, mae trwyddedau ar gyfer chwaraeon dŵr gan gynnwys hwylio, rhwyfo a chanŵio ar gael yn Siop Lakeside

Amserlen Bosib
10:30 Cyrraedd Llyn Syfaddan .
10:45 Mwynhewch rai gweithgareddau dŵr ar y llyn neu ewch am dro hamddenol o amgylch Llwybr y Llyn (50 munud bob ffordd).
12.30-1.30 Tamaid bach, boed yn bicnic neu’n ginio yn y bwyty.
01:45 Mynd o gwmpas ardaloedd eraill o'r safle, fel replica Crannog a’r siop.
02:30 Gadael am adref drwy Aberhonddu er mwyn cael prynhawn o siopa a chael lluniaeth.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf