Skip to main content

Sgydau

Mae Bro Sgydau’n denu llawer iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd.

Sgydau

Mae Bro Sgydau’n denu llawer iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd. Cyn i chi ymweld, byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
-  Mae’r meysydd parcio’n llawn erbyn canol dydd, os nad yn gynt.
-  Bydd parcio anghyfreithlon yn arwain at ddirwy a gallai parcio sy’n peri rhwystr arwain at eich cerbyd yn cael ei gymryd i ffwrdd. Parciwch yn y mannau parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd nac ar y palmentydd.

Mae gan bro Sgydau’n ffyrdd serth a llwybrau cerdded serth:

  • Byddwch yn ymwybodol fod ffyrdd yn yr ardal hon yn gallu bod yn gul iawn, gydag un lȏn ble mae’n anodd gweld yn iawn ac ychydig iawn o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a gyrru am yn ôl am bellteroedd maith ar hyd y lonydd cul.
  • Nifer cyfyngedig o gyfleusterau toiled sydd yn y meysydd parcio ac nid oes unrhyw rai wrth y sgydau.
  • Er mwyn cyrraedd y sgydau mae angen mynd am dro hir ar hyd tirwedd anwastad. Nid yw unrhyw un o’r sgydau’n hygyrch i fygis, coetsys na chadeiriau olwyn.
  • Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Does dim biniau sbwriel wrth y sgydau.
  • Peidiwch â neidio oddi ar unrhyw raeadr waeth pa mor ddeniadol y bo hynny. Mae’r pyllau’n aml yn fwy bas na’r argraff maen nhw’n ei roi ac mae’n bosibl bod creigiau o dan yr wyneb ynddynt. Mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn yr afon yn gyson yn gwirio’r pyllau am rwystrau ac maen nhw’n gwybod beth sy’n ddiogel ar wahanol lefelau dŵr.
  • Gwybod cyn cychwyn
  • Os yw’n teimlo fel petai yna ormod o bobl yna, yna mae gormod o bobl yna. Mae 520 o filltiroedd sgwâr gan y Parc Cenedlaethol felly beth am ymweld ag un o’r llefydd llai prysur gan ddod o hyd i’ch hoff le newydd.
  • Helwch ni i’w cadw drwy gymryd gofal a chadw at y llwybrau cerdded a dilyn y Cod Cefn Gwlad

 

Cofiwch fod rhai o ffyrdd yr ardal hon yn gul iawn, digon o le i ddim ond un cerbyd yn aml, yn droellog a dim ond ychydig o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a bacio ar lonydd cul.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf