Skip to main content

Llynnoedd a Dyfrffyrdd

Mae nentydd mynyddig rif y gwlith, milltiroedd lawer o afonydd a chamlesi, llynnoedd hardd, gan gynnwys y mwyaf yn ne Cymru, a chronfeydd dŵr oll yn creu ardal sy’n raeadr o berlau byw.

Llynnoedd a Dyfrffyrdd

Wrth brofi ein llynnoedd llawn a’n dyfrffyrdd difyr byddwch yn manteisio ar ein cyflenwad dihysbydd o law! Pa ffordd well o wneud hynny na thrwy logi cwch, beicio ar hyd llwybr camlas, cerdded ar hyd glannau afon neu lyn, gwylio adar y dŵr neu fwynhau picnic mewn dôl ar lan llyn. Os carech brofi rhywbeth ychydig bach yn fwy anturus, beth am rasio mewn cychod bach, hwylfyrddio neu gaiacio dŵr gwyn? Dewch i fwynhau’r dŵr - un o’r elfennau mwyaf grymus i siapio ein tirwedd anhygoel – elfen wefreiddiol, fyw’r Bannau.

People canoeing on canal and cycling on towpath

Gofalu am eich hunan a'r Parc Cenedlaethol 

Helpwch gofalu am y Parc Cenedlaethol a'i fywyd gwyllt a pharchwch mwynhad pobl eraill drwy ddilyn y Côd Cefngwlad.

Hefyd:

  • peidiwch byth a nofio mewn cronfeydd dŵr neu gamlas a neidio i fewn i ddŵr anghyfarwydd
  • cadwch draw o ddŵr sy'n frown neu'n goch ei liw - mae'n dangos bod yr afon neu nant wedi chwyddo gyda glaw,
  • gwisgwch esgidiau gyda gafael cryf wrth ymyl afonydd neu rhaeadrau – gall creigiau llithrig a thir garw fod yn angheuol,
  • osgowch rhydio ar draws afonydd,
  • byddwch yn ofalus o wyntoedd cryf gall gynhyrchu tonnau grymus pan ar ddŵr agored,
  • cadwch draw o ddŵr sy'n ymddangos wedi rhewi - gall fod yn fas ei ddyfnder.

 

 

 

 


Uchafbwyntiau


Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf