Skip to main content

Llyn Syfaddan

I'r dwyrain o Aberhonddu, rhwng y Bannau Canolog a'r Mynydd Du, mae Llyn Syfaddan, llyn naturiol mwyaf Cymru. Fel y llynnoedd mynyddig, mae'n gorwedd mewn pant a ffurfiwyd gan symudiadau rhewlifol, ond, 154m uwchben lefel y môr, mae'n llawer mwy hygyrch.

Ar y dŵr

Yng nghanol clytwaith o fryniau gwyrddion, caeau, dolydd a gwrychoedd, mae Llyn Syfaddan yn fan gwirioneddol brydferth ac yn lle hyfryd i hwylio neu badlo. Gallwch lansio’ch cwch eich hun o'r ganolfan llogi cychod neu'r clwb hwylio – mae’r ddau ar Gomin Llangors ar y lan ogledd-orllewinol, neu logi dingi, hwylfwrdd, canŵ, caiac, rhwyf-fwrdd, pedalo neu gwch rwyfo. Mae lluniaeth ar gael yma, hefyd.

Mae'r llyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. I warchod y glannau a'r bywyd gwyllt, mae cyfyngiadau ar faint o bobl all fynd ar y dŵr ar unwaith a lle y gall pobl fynd mewn cychod. Mae bwiau’n marcio’r parthau na ganiateir i chi fynd iddynt. Er mwyn mynd ar y dŵr, byddwch angen trwydded a rhaid talu ffioedd lansio hefyd. Am ragor o fanylion, ewch i'n tudalennau ar hwylio a chanŵio..

Mae Llyn Syfaddan hefyd yn fan poblogaidd ar gyfer pysgota, ac mae penhwyaid, draenogiaid, cochiaid, merfogiaid, ysgretennod a llyswennod i gyd i’w cael yma. Caniateir pysgota o gychod yn unig, ac nid oddi ar y glannau, ac mae’n rhaid eu dal a’u rhyddhau. Byddwch angen trwydded bysgota o’r Swyddfa Bost a thrwydded o'r ganolfan llogi cychod. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen ar bysgota.

Dewch i ddarganfod encil brenhinol hynafol

Yn y Ganolfan ddehongli sydd ar stiltiau ar lan ogledd-orllewinol y llyn cewch wybodaeth am safle treftadaeth unigryw'r llyn, y Crannog, ynys a wnaed gan ddyn o goed derw, helyg a phren cyll. Heddiw mae coed yn tyfu ar y safle sydd ymhell dros 1000 o flynyddoedd oed, ond unwaith yr oedd, yn ôl pob tebyg yn safle palas brenhinol.

Gwylio bywyd gwyllt

Mae Llyn Syfaddan yn hafan wych ar gyfer bywyd gwyllt. Mae dyfrgwn a llygod dŵr ymhlith y mamaliaid sy’n byw yma. Yn fwy aml na pheidio maent yn cuddio yn y cyrs, felly nid ydych yn debygol o’u gweld, ond yn sicr fe welwch yr adar - teloriaid, cwtieir, gwenoliaid, gwenoliaid duon a heidiau mawr o wyddau Canada a mudwyr eraill sy’n ymgynnull ar y safle ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

I gael golygfa dda ohonynt, dilynwch y llwybr o gwmpas y lan orllewinol i Warchodfa Natur Llangasty ger Fferm Tŷ-Mawr, neu ewch i’r maes parcio ger eglwys Llangasty. Mae cuddfan adar bren, hardd yn y warchodfa, sy’n edrych allan dros y cyrs a’r dŵr y tu hwnt. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau ar wylio bywyd gwyllt, gwylio adar a llwybrau natur. .

Dysgu am dreftadaeth leol

Mae Fferm Tŷ-Mawr (www.lime.org.uk) yn ganolfan hyfforddi a chyflenwi deunyddiau a dulliau adeiladu Cymraeg traddodiadol, ecogyfeillgar. Yn ogystal â dosbarthiadau mewn plastro calch, toeau gwellt a sgiliau adeiladu treftadaeth eraill, mae cyrsiau gwneud cwryglau ar gael. Beth am roi cynnig arni?

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf