Skip to main content

Geoparc Byd-Eang UNESCO Fforest Fawr

Geoparc Byd-Eang UNESCO Fforest Fawr

Mae’r ardal unigryw hon yn gacen haenog o greigiau crychlyd a ffurfiwyd dros 480 miliwn o flynyddoedd. Dyma dirwedd sydd wedi’i cherflunio gan rew ac yna wedi’i thrawsnewid gan ddyn. Bu’n dyst i enedigaeth y Chwyldro Diwydiannol. Mae’n cynnwys cynefinoedd pwysig i blanhigion, adar, pryfed a chennau prin.

Mae Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr (www.fforestfawrgeopark.org.uk) yn rhan ddaearegol bwysig o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n cwmpasu hanner gorllewinol ein Parc, o Lanymddyfri yn y gogledd i Ferthyr Tudful yn y de, ac o Landeilo yn y gorllewin i Aberhonddu yn y dwyrain.

Derbyniwyd y parc i Rwydwaith Geoparciau Ewrop yn 2005 fel geoparc cyntaf Cymru. Cafodd ei enwi ar ôl ucheldir y Fforest Fawr sy’n gorwedd o fewn y Geoparc.

Pwrpas y Geoparc yw cynhyrchu manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Trwy weithio gyda’n cymunedau lleol ac er eu mwyn, bydd yn cyflawni hyn drwy ganolbwyntio ar gadw ein treftadaeth ddaearegol, diwylliannol a biolegol, hybu ymchwil i wyddorau ddaear a newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygu economaidd cynaliadwy, yn enwedig twristiaeth gynaliadwy.

I nodi Diwrnod Geoamrywiaeth cyntaf UNESCO, fe wnaethom lansio taith sain i gludo gwrandawyr o bedwar ban byd i Fforest Fawr. Cliciwch isod i ymuno â'r awdur a'r darlledwr Jon Gower wrth iddo drochi gwrandawyr ar daith ar hyd Cwm Henllys.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf