Skip to main content

Bannau a Bryniau

Cadwyn osgeiddig o fynyddoedd yn rhedeg yr holl ffordd o’r gorllewin i’r dwyrain yw asgwrn cefn ein Parc Cenedlaethol.

Bannau a Bryniau

Er mwyn cyrraedd un o’r copaon gwastad sy’n nodweddu’r Bannau, gallwch ddewis cerdded ar hyd un o’r llethrau haws o gyfeiriad y de neu ddringfa fwy heriol ar hyd crib fwaog, ar ymyl tarren ddramatig sy’n wynebu’r gogledd.

Mae’r mynyddoedd sydd gennym yma, mawr a bach, yn creu tirwedd amrywiol sy’n cynnig toreth o gyfleoedd cerdded. Maent yn amrywio o lechweddau fel y Blorens (571m) sy’n gwarchod tref Blaenafon, i Ben y Fan (886m) sef y mynydd uchaf yn neheudir gwledydd Prydain.

Hon yw ein seren, a saif ym masiff canolog Bannau Brycheiniog, un o bedwar masiff y Bannau, a’r tri arall yw:

• Y Mynyddoedd Duon tua’r dwyrain â’r Waun Fach (810m) yn bwynt uchaf iddynt;


• Fforest Fawr sy’n cynnwys y Fan Fawr (734m) ymhlith ‘Bannau’ eraill;

• Y Mynydd Du tua’r gorllewin lle cwyd Fan Brycheiniog i uchder o 802m.

 

Gallwch ddysgu am y ddaeareg sy’n gefndir i hyn yma, un o dirweddau mwyaf trawiadol gwledydd Prydain, y cydnabyddir ei hochr orllewinol gan UNESCO dan yr enw Geoparc Fforest Fawr.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf