Teithiau cerdded yng Bro’r Sgydau
Mae yna lawer iawn o bobl yn ymweld â Bro’r Sgydau ar hyn o bryd, gyda'r meysydd parcio'n llawn yn aml cyn canol dydd. Gallwch gadw golwg ar y dudalen meysydd parcio cyn teithio ar https://carpark.beacons-npa.gov.uk/. Cofiwch y gall meysydd parcio fynd o fod yn hanner llawr i fod yn llawn mewn llai na hanner awr.
Cyn i chi ymweld
- Cofiwch fod rhai o ffyrdd yr ardal hon yn gul iawn, digon o le i ddim ond un cerbyd yn aml, yn droellog a dim ond ychydig o fannau mynd hebio. Byddwch yn barod i ildio a bacio ar lonydd cul.
- Ychydig o adnoddau toiledau sydd yn y meysydd parcio a does yr yn toiled wrth y sgydau.
- Mae’n daith gerdded hir ar dir anwastad i gyrraedd pob un o’r sgydau. Dyw hi ddim yn bosibl mynd â bygis, coetsys na chadeiriau olwyn at yr un o’r sgydau.
- Ewch â’ch holl ysbwriel gartref gyda chi. Does dim biniau ysbwriel wrth y sgydau.
Mae sawl llwybr wedi ei farcio yn arwain trwy'r ardal brydferth hon o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, at y rhaeadrau mwyaf dramatig.
Mae'r llwybrau yma'n llinol. Dangosir isod gyfanswm y milltiroedd, yno ac yn ôl.
![]()
Llwybr Pedair Rhaeadr
![]()
Pellter
5.5 milltir
Gradd
Egnïol
Man cychwyn
Gwaun Hepste neu faes parcio Cwm Porth
Cyfeirnod grid OS
SN935123 neu SN928124
Mae'r llwybr hwn yn arwain at Sgwd Clun-Gwyn, Sgwd Isaf Clun-Gwyn, Sgwd y Pannwr a Sgwd-yr-Eira ar Afon Mellte yng nghalon Gwlad y Sgydau.
Llwybr Elidir (Sgwd Gwladus)
![]()
Pellter
Pellter
Gradd
Cymedrol iawn, yna cymedrol
Man cychwyn
Pentre Pontneddfechan (neu faes parcio Pont Melin-Fach, er mwyn cerdded y llwybr am yn ôl)
Cyfeirnod grid OS
SN900075 neu SN907104
Dyweder bod 'na fynedfa i deyrnas tylwyth teg rywle ar hyd llwybr Elidir, sy'n mynd â chi i fyny'r afon ar hyd llwybr ar ochr dde Afon Pyrddin i Sgwd Gwladus.
Er mwyn parhau, ewch yn ôl at yr afon ac anelwch i'r chwith ar hyd glannau Nedd Fechan er mwyn cyrraedd Sgwd-y-Bedol, sydd wedi ei ffurfio mewn sawl lefel o ochrau siâp hanner cylch. Ychydig yn bellach i fyny'r afon mae dŵr yn llifo i lawr dros Sgwd Ddwli Isaf a Sgwd Ddwli Uchaf sy'n haeddu eu henwau ar ôl glaw trwm. Oddi yma gallwch barhau i'r ardal bicnic ym Mhont Melin-Fach neu fynd yn ôl i Bontneddfechan.
Llwybr Powdr Gwn
![]()
Pellter
Pellter
Gradd
Cymedrol iawn
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas - trowch i'r dde dros y bont ac yna i'r dde eto i gyrraedd panel croeso i'r llwybr
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mewn ceunant ar ben pellaf pentref Pontneddfechan mae adfeilion Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd. Mae'r Llwybr Powdr clywedol yn mynd â chi ar daith hynod trwy'r safle hanesyddol hwn, gan ddarganfod sut fywyd oedd gan y dynion a'r merched oedd yn gweithio yng nghrefft beryglus cynhyrchu powdr gwn. Mae'r daith gerdded yn mynd â chi trwy leoliad coediog, ag Afon Mellte yn llifo oddi tano.
Llwybr Sychryd
![]()
Pellter
0.5 milltir
Gradd
Cymedrol iawn, mynediad haws
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mae llwybr llwch-carreg yn troelli i lawr y ceunant cul coediog gerfiwyd gan yr Afon Sychryd at Sgydau Sychryd. Ar ochr arall yr afon mae'r graig ysblennydd a elwir yn Bwa Maen, sef plyg daearegol hynod. Mae'r llwybr yma'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn cadarn a choetsys plant.
Llwybr Sgwd yr Eira (o faes parcio Craig y Ddinas)
![]()
Pellter
2 filltir
Gradd
Egnïol
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mae'r llwybr yma'n arwain at Sgwd-yr-Eira. Mae'r clywedol yn disgrifio sut mae'r tir hwn wedi cael ei ddefnyddio gan wahanol bobl, o ffermwyr cynnar i gloddwyr creigiau a dringwyr.
Cadwch lygad am arwyddion melyn a physt wedi eu rhifo ar hyd y ffordd, sy'n dweud wrthoch chi pa drac i'w chwarae.