Skip to main content

Caeau blodau gwylltion Ty Mawr

Caeau blodau gwylltion Ty Mawr

Cartref i Ddreigiau, Morwynion a Chythreuliaid!

Mae caeau Caeau Tŷ Mawr yn gyfoeth o flodau gwylltion ar lan orllewinol Llyn Syfaddan ac maen nhw’n rhan o un o'r ardaloedd bywyd gwyllt pwysicaf yng Nghymru. I glywed pam y mae’r caeau bach hyn mor bwysig, lawrlwythwch y trac yma.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd berchen ar y caeau, ac maen nhw’n cael eu rheoli mewn partneriaeth â thenantiaid sy’n ffermio yno, er bod y rheolaeth o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan y merlod sy’n pori yno! I glywed sut mae'r merlod yn helpu i greu amser a gofod i flodau gwylltion lawrlwythwch y trac yma.

Yn ystod misoedd yr haf, mae’r caeau yn dod yn fyw gyda gweision y neidr ac ieir bach yr haf yn chwilota ymhlith y planhigion. Ond, oeddech chi'n gwybod y gallwch chi hefyd weld Dreigiau, Morwynion a Chythreuliaid?! I gael gwybod mwy lawrlwythwch y trac yma..

Ymweld â'r caeau
Gallwch ymweld â Chaeau Tŷ Mawr drwy fynd am dro (1.2km) ar draws caeau agored gan ddilyn llwybr cyhoeddus poblogaidd. Mae'r llwybr troed yn croesi drwy Gaeau Tŷ Mawr, gan ganiatáu i ymwelwyr gofleidio golygfeydd a synau cyfoethog y bywyd gwyllt sydd ar y safle hwn. Sylwer nad oes mynediad cyhoeddus oddi ar y llwybr. Os ydych yn dymuno ymweld â'r guddfan adar sydd ar y traeth deheuol, ewch ymlaen gyda’ch taith drwy Gaeau Tŷ Mawr ac i mewn i'r caeau tu hwnt - mae’n bellter o tua 750m. O'r guddfan efallai y cewch chi gipolwg ar rai o'r adar sy'n ymweld â'r llyn a'i lannau yn ogystal â darganfod mwy am rai o'n hymwelwyr tymhorol.

Mae rhannau o'r llwybr hwn ar lan y llyn yn agored i lifogydd tymhorol yn ystod y gaeaf sy'n ei gwneud hi’n amhosib mynd ar hyd y llwybr. Er bod hyn yn anghyfleus i ni, mae'r llifogydd yn darparu amodau perffaith ar gyfer rhai o'r planhigion ac anifeiliaid diddorol, sy’n ffynnu yma. I ddysgu mwy am y rhain lawrlwythwch y trac yma..

Sut i fynd yna
Mae yna ddigon o le i barcio ar Gomin Llangors. Dilynwch yr arwyddion ffordd brown i'r llyn o bentref Llangors. Ar ôl i chi fynd i mewn i'r comin, pasiwch dderbynfa'r Parc Carafanau a’r siop ar y chwith ac yna parcio yn y maes parcio ar y chwith. Edrychwch ar y map cyfeiriadedd ac arwyddion ffordd er mwyn sicrhau eich bod ar y llwybr cywir.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf