Skip to main content

RHAEADRAU, FFOSILIAU, FFORESTYDD A CHNU

RHAEADRAU, FFOSILIAU, FFORESTYDD A CHNU

Mae Cyngor Cymuned Tawe Uchaf a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cynhyrchu taith glywedol i helpu ymwelwyr fwynhau Llwybr Rhaeadr Nant Llech.

Mae Sgwd Henrhyd yn goron ar ben y dyffryn hynod hwn sy'n berchen i ac yn cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch grwydro'r Llwybr Rhaeadrau o ble mae'r Llech yn cwrdd ag Afon Tawe yn Abercraf. Mae'n cymryd tua awr bob ffordd i gerdded ar hyd y llwybr i Abercraf. Gall y llwybr fod yn anwastad, gwlyb a llithrig, gyda rhai rhiwiau serth. Mae 'na seddi ar hyd y ffordd i gael seibiant a mwynhau'r dyffryn. BYDDWCH YN OFALUS a chadwch at y llwybrau dan reolaeth. Mae'r safle hwn wedi cael ei ddynodi fel SSSI neu SODdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn difrodi nac yn tarfu ar fywyd gwyllt y dyffryn prydferth hwn.

Along the waterfalls trail there are four audio listening points. You can download these tracks below either to take with you along the route or enjoy a virtual visit along the Nant Llech Waterfall Trail.

Rhan 1 Lawrlwytho

Rhan 2 Lawrlwytho

Rhan 3 Lawrlwytho

Rhan 4 Lawrlwytho

Gweithiodd disgyblion o Ysgolion Cynradd Abercraf, Pen y Cae, Caehopcyn a Coelbren gyda'i gilydd i greu'r ffilm fer hon am y llwybr.

BYDDWCH YN DDIOGEL

Sgwd Henrhyd yw un o'r rhaeadrau hawsaf yn yr ardal i fynd ati. Mae ymwelwyr yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain. Cadwch at y llwybrau dan reolaeth a BYDDWCH YN OFALUS, mae'r ddaear o gwmpas y rhaeadrau'n serth ac yn gallu bod yn llithrig..

Mae'r prosiect hwn wedi ei ariannu'n rhannol gan Gynllun Gwledig Cymru 2007-2013 sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf