Skip to main content

Trefi a phentrefi

Mae ein trefi marchnad prysur a’n pentrefi bach heddychlon oll yn aros i’ch croesawu chi.

Trefi a phentrefi

Yn y trefi marchnad llawn cymeriad sydd ar hyd ymylon y Parc Cenedlaethol byddwch yn siŵr o ddod ar draws rhywbeth yn digwydd, llefydd gwych i aros, i fwyta, i siopa a sgwrsio ac yn llefydd addas fel man cychwyn i’ch holl weithgareddau yn y Parc. Wrth fentro ymhellach i’n Parc cewch gip hefyd ar batrwm bywyd mwy heddychlon sydd yn ein pentrefi bychain ar hyd ein hafonydd, ger y gamlas ac ar lan Llyn Syfaddan.

I ba dref neu bentref bynnag yr ewch iddynt, byddwch yn siŵr o ddod ar draws digonedd o bensaernïaeth glasurol Gymreig, amgueddfeydd, adeiladau ac eglwysi difyr. Rhain gyda’i gilydd sydd yn costrelu ein treftadaeth wledig ar eich cyfer ynghyd ag ambell waddodyn o’r byd diwydiannol.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf