Skip to main content

Ymweld â Bro’r Sgydau

Ymweld â Bro’r Sgydau

Mae rhai o’r mannau mwyaf prydferth a phoblogaidd y Parc Cenedlaethol ar ei ymyl dde-orllewinol.  Yma, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd-fechan yn troelli eu ffordd trwy geunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o sgydau dramatig cyn ymuno ag Afon Nedd.   Mae’n  ardal o bwysigrwydd rhyngwladol ac wedi’i dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’r ardal yn croesawu dros 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn aml mae’n eithriadol o brysur yn ystod yr haf ac ar benwythnosau. Mae wedi denu cymaint o ymwelwyr yn y blynyddoedd diweddar nes bod pwysau aruthrol ar y tirweddau bregus a’r cymunedau o’u cwmpas. Gallwch chi helpu trwy ddilyn y cynghorion isod:

Bws Wennol Am Ddim

Mae dau fws wennol am ddim yn rhedeg eleni ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc o 23 Gorffennaf - 4 Medi. Bydd un yn rhedeg rhwng Glyn Nedd a Phontneddfechan (Sgwd Gwladys, tafarndai a chaffi) ac un rhwng Glyn Nedd a Gwaun Hepste (Llwybr y Pedwar Sgwd, tafarn y pentref). Rydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.  Bydd yn lleihau tagfeydd ac yn eich helpu i gael mwy allan o’ch ymweliad. Am fwy o wybodaeth.

Parcio

Mae yna dau faes parcio swyddogol yng Ngwlad y Sgydau sy’n cael eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r ddau yn cymryd taliadau cerdyn DIM OND £5 y car a £7 y bws mini. Dilynwch yr arwyddion ffyrdd i’r meysydd parcio ac nid eich satnav.  Bydd y satnav  yn eich anfon i lawr lonydd cul, troellog heb unrhyw fannau pasio.

Ar adegau prysur mae’r meysydd parcio’n gallu llenwi ac efallai byddwch yn cael eich cyfeirio at faes parcio gorlif. Mae’r rhain yn gweithio gydag arian parod yn unig - £5 fesul cerbyd ac maen nhw’n dibynnu ar y tywydd ac felly nid ar gael bob amser.

Gwaun Hepste

Addas ar gyfer:

  • Grwpiau o fwy na thri char
  • Cerbydau mwy gan gynnwys campervans (dim aros dros nos)

Ddim yn addas ar gyfer:

  • Bysiau a coetsys
  • Aros dros nos

Adnoddau

  • Toiledau (tymhorol)
  • Carafán lluniaeth codi’n sydyn (tymhorol)

Cwm Porth

Mynediad at faes parcio bychan i lawr lôn gul gyda system un ffordd. Yn llenwi’n gynnar yn y diwrnod ac mi allwch cael eich cyfeirio at faes parcio arall.

Addas ar gyfer:

  • Ceir a beiciau
  • Bws mini wedi archebu lle o flaen llaw.

Ddim yn addas ar gyfer:

  • Campervans (dim aros dros nos)

Adnoddau

  • Siop yn gwerthu lluniaeth, byrbrydau ac anrhegion – ar agor 08.00 – 16.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn (taliadau cerdyn yn unig)
  • Toiledau

Edrychwch ar eich ôl eich hunan

  • Cynlluniwch eich ymweliad. Talwch sylw i hyd a graddfa pa mor anodd yw’r llwybrau.  Mae manylion ar ein tudalen Llwybrau Cerdded.
  • Gwisgwch yr esgidiau iawn. Gall y llwybrau fod yn serth, yn fwdlyd ac yn llithrig.  Fe'ch cynghorir i wisgo esgidiau cryf gyda gafael da ar y wadn.
  • Mae’r afonydd yn oer iawn ar bob adeg o’r flwyddyn, peidiwch â chael eich temtio i nofio, gall sioc dŵr oer effeithio ar y nofwyr cryfaf.  Mae marwolaethau ac anafiadau difrifol wedi digwydd.
  • Mae signal ffonau symudol yn annibynadwy, felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio'ch taith, ei bod o fewn eich gallu a byddwch yn barod i gerdded i ganfod signal.

Gofalwch am yr amgylchedd

  • Ewch â’ch ysbwriel adref gyda chi, does yna ddim biniau ar y llwybrau.
  • Gall tanau fod yn ddifäol i fywyd gwyllt, peidiwch â chael eich temtio i gynnau un.
  • Cadwch at y llwybrau sydd wedi’u marcio, dyma'r rhai mwyaf diogel.
  • Dilynwch y Côd Cefn Gwlad – Amddiffyn, Parchu, Mwynhau

Cŵn

  • Dilynwch y Côd Cerdded Cŵn i gael teithiau cerdded diogel a hapus gyda’ch ci.
  • Gofalwch am fywyd gwyllt trwy godi baw eich ci a’i waredu mewn bin neu gartref. Mae bagiau ‘dici’ yn wirioneddol hwylus ar gyfer hyn.
  • Mae yna lawer o lethrau serth a dyfroedd dwfn sy'n rhedeg yn gyflyn ym Mro'r Sgydau. Bydd cadw eich ci ar dennyn yn helpu i’w gadw’n ddiogel.
  • Cadwch eich ci ar dennyn os bydd yna dda byw o gwmpas. Peidiwch byth â gadael i’ch ci boenydio neu redeg ar ôl bywyd gwyllt na da byw.
  • Nid pawb sy’n hoffi cŵn, felly peidiwch â gadael i’ch ci fynd at bobl neu gŵn eraill heb wahoddiad.

 

MENTRA'N GALL adventuresmart logo


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf